
Dathlu gwerth ac effaith nyrsys ymchwil ar #DiwrnodNyrsys 2025
12 Mai
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys yn ddathliad o fedrusrwydd, ymroddiad ac effaith nyrsio mewn amrywiaeth eang o leoliadau, o feddygfeydd meddygon teulu i ysbytai, cartrefi gofal a charchardai.
Heddiw, 12 Mai, mae nyrsys ymchwil o bob cwr o Gymru wedi dod at ei gilydd i ddathlu'r proffesiwn, gan rannu eu meddyliau am yr hyn sy'n gwneud ymchwil mor werth chweil, y rôl bwysig sydd ganddynt wrth gyflwyno astudiaethau a threialon newydd – a rhai pethau am eu rôl efallai nad ydych chi'n eu gwybod!
Fe wnaethom ofyn i Rebecca Weston-Thomas, Nyrs Arweiniol Cancer Research UK yng Nghymru yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru am yr hyn roedd hi'n fwyaf balch ohono am nyrsio ymchwil.
Dywedodd: "Dechreuodd fy rôl bresennol fel Nyrs Arweiniol CRUK Cymru yn dilyn fy ngyrfa fel nyrs arbenigol Canser yr Ysgyfaint a Mesothelioma. Mae canlyniadau gwael iawn i’r ddau glefyd. Oherwydd fy mhrofiadau fel nyrs arbenigol, dysgais pa mor bwysig yw ymchwil i wella canlyniadau cleifion.
Nawr fy mod wedi symud i ymchwil , gallaf ddylanwadu ar argaeledd a hygyrchedd treialon ledled Cymru. Rwyf am fod yn rhan o system lle mae cleifion yn gallu bod yn rhan o dreialon clinigol ble bynnag y maent yn byw, statws cymdeithasol, rhywedd, ethnigrwydd, neu unrhyw ffactorau eraill. Rwyf hefyd eisiau dangos bod ymchwil ar gyfer pawb, nid dim ond yr ychydig dethol. Gall pawb fod â rhan mewn ymchwil a bod yn rhan o wella'r dyfodol i bawb."
Dywedodd Jayne Goodwin, Pennaeth Cenedlaethol Cyflenwi Ymchwil NMAHPs yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a chyd-arweinydd prosiect PRIORITY, fod nyrsys ymchwil wedi bod â rhan hanfodol wrth sefydlu treialon clinigol oherwydd y berthynas sydd ganddynt gyda'u cleifion.
Ychwanegodd: "Mae nyrsio ymchwil glinigol wedi dod yn gymuned ac arbenigedd a gydnabyddir yn fyd-eang gyda phwyslais a gwerth cynyddol ar gyflwyno ymchwil mewn polisi ac ymarfer.
"Mae nyrsys ymchwil yn hanfodol i asesu a yw treialon yn addas mewn lleoliadau clinigol a chymunedau penodol gan fod ganddynt wybodaeth arbenigol o sut mae gwasanaethau a llwybrau clinigol yn gweithredu.
"Maent hefyd yn hanfodol wrth nodi cyfranogwyr ar gyfer treialon. Mae ganddynt yr arbenigedd clinigol i asesu a allai cleifion fod yn gymwys ar gyfer treialon, a thrwy eu perthynas â chleifion gallant drafod opsiynau triniaeth yn llawn fel bod y claf yn gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch cymryd rhan mewn ymchwil sy'n addas iddynt fel unigolyn."
Jade Cole yw’r Arweinydd Ymchwil a Datblygu Gofal Critigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac Arweinydd Arbenigedd Gofal Critigol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Dywedodd ei bod yn falch o allu nyrsys ymchwil i wella canlyniadau ar raddfa fyd-eang – a’i bod eisiau herio camsyniad cyffredin am y rôl. Dywedodd Jade,
Mae nyrsys ymchwil yn hanfodol i ymchwil o ansawdd da. Trwy ymchwil gallwn wella triniaethau a chanlyniadau i gleifion ledled y byd, o unrhyw arbenigedd. Er enghraifft, yn ystod pandemig COVID-19, roedd nyrsys ymchwil yn allweddol wrth weithio'n ddiflino i helpu i ddod o hyd i driniaethau effeithiol sy'n gwella canlyniadau i gleifion ledled y byd.
"Mae camsyniad cyffredin bod nyrsys ymchwil yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn casglu data ac nad ydynt yn cael gweithio gyda chleifion. Mewn gwirionedd mae'n rôl glinigol iawn, wyneb yn wyneb â chleifion, lle cewch ehangu eich gwybodaeth a'ch sgiliau gyda phob treial newydd."
Mae Jayne Goodwin yn cytuno, gan ddweud, "Nid yw nyrsys ymchwil yno dim ond i ddarllen llenyddiaeth a chasglu data. Rydyn ni wedi ein gwreiddio mewn gofal cleifion, eiriolaeth a gwneud penderfyniadau.
Y tu ôl i bob canlyniad treial, mae tîm o nyrsys ymchwil sy'n sicrhau bod y cleifion hynny'n cael eu trin fel unigolion a bod eu lleisiau'n cael eu clywed."