prosiect BLAENORIAETH

Bydd y prosiect BLAENORIAETH, a gomisiynwyd gan Brif Swyddog Nyrsio Cymru, Prif Gynghorydd Proffesiynau Perthynol i Iechyd a Chyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn datblygu cynllun gweithredu i gynyddu capasiti a gallu o ran gwneud a defnyddio ymchwil yn y proffesiynau nyrsio, bydwreigiaeth a’r 13 o broffesiynau gofal iechyd cysylltiedig.

Mae ymarfer dan arweiniad ymchwil yn cael canlyniad cadarnhaol sylweddol i gleifion ac mae gwreiddio ymchwil ym mhob rhan o iechyd a gofal cymdeithasol yn elfen allweddol o Fframwaith Ymchwil a Datblygu GIG Cymru Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a gyhoeddwyd yn 2023.

Bydd cynllun gweithredu yn cael ei gyd-gynhyrchu gyda'r proffesiynau, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, yn ogystal â phrifysgolion, a fydd yn cael cyfle i rannu'r capasiti presennol a mynd i'r afael â rhwystrau i ymgymryd ag ymchwil yn eu rolau ac yn y GIG a gofal cymdeithasol.

Bydd y cynllun yn defnyddio dull gweithlu a system gyfan i sicrhau bod nyrsys, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn gallu gweld, croesawu a gwerthfawrogi ymchwil, yn ogystal ag adeiladu llif o dalent ymchwil ar gyfer Cymru.

Dywedodd Prif Swyddog Nyrsio Cymru, yr Athro Sue Tranka“Cymru yw'r genedl gyntaf yn y DU i fod â chynllun fel hyn i hybu ymchwil ar draws y proffesiynau gofal iechyd allweddol hyn ac rydym yn falch bod ein gweithwyr proffesiynol talentog wedi dod at ei gilydd i arwain y ffordd yn hyn o beth.  

“Nid ar gyfer arweinwyr ymchwil yn unig mae’r cynllun hwn, mae ar gyfer pawb sy'n defnyddio, cynhyrchu neu sy'n cael eu hysbrydoli gan dystiolaeth i wella gofal.  

“Rydym yn estyn ein diolch diffuant i bawb a gyfrannodd at brosiect BLAENORIAETH. Mae eich gwybodaeth, eich profiad a'ch dyheadau wedi llunio'r cynllun hwn, a bydd eich arweinyddiaeth barhaus yn allweddol wrth ei gyflawni.” 

Dywedodd y Prif Gynghorydd Proffesiynau Perthynol i Iechyd, Ruth Crowder: “Bob dydd, ym mhob lleoliad a sector, mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, nyrsys a bydwragedd yn darparu gofal sy'n gwella bywydau. Ond maen nhw hefyd yn gofyn cwestiynau, yn chwilio am dystiolaeth, yn profi syniadau, yn arwain newid ac yn arloesi i ddiwallu anghenion unigolion a chymunedau.  

“Mae'r cynllun hwn yn cydnabod ac yn hyrwyddo'r cyfraniad hwnnw, gan nodi cyfeiriad clir i sicrhau bod ymchwil yn dod yn rhan greiddiol a gwerthfawr o bob rôl broffesiynol, o fyfyrwyr i uwch arweinwyr, mewn cyd-destunau clinigol, academaidd, iechyd cyhoeddus, gofal cymdeithasol a pholisi. 

“Mae'r cynllun hefyd yn grymuso pob aelod o staff iechyd a gofal i ddefnyddio, cymryd rhan, darparu ac arwain ymchwil fel rhan o'r gofal y maent yn ei ddarparu, ac i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi wrth wneud hynny.” 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles: "Mae gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru gan ddefnyddio dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn hanfodol i wella ansawdd gofal. Mae ymchwil yn allweddol wrth gynhyrchu'r sylfaen dystiolaeth honno, i ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac i osod y sylfeini ar gyfer canlyniadau gwell i gleifion, pobl a chymunedau. 

“Bydd ymchwil yn darparu cyfleoedd ar gyfer datblygu'r gweithlu a rolau swyddi gwell, sy'n helpu gyda recriwtio a chadw, yn ogystal â datblygu arweinwyr a meddylwyr beirniadol.  

“Rwy'n falch iawn bod y cynllun gweithredu ymchwil hwn, a gomisiynwyd gan Brif Swyddog Nyrsio Cymru a Phrif Gynghorydd Proffesiynau Perthynol i Iechyd, yn amlinellu camau gweithredu i wella ymarfer, creu capasiti a gallu, ac yn y pen draw bydd yn arwain at ganlyniadau gwell i bobl sydd angen gofal iechyd." 

Mae'r 13 o Broffesiynau Perthynol i Iechyd yn cynnwys therapyddion celf, therapyddion drama, therapyddion cerdd, podiatryddion, dietegwyr, therapyddion galwedigaethol, orthoptyddion, prosthetyddion ac orthotyddion, parafeddygon, ffisiotherapyddion, therapyddion lleferydd ac iaith, a seicolegwyr. Mae pob proffesiwn wedi'i gofrestru a'i reoleiddio gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac yn gweithio ym mhob rhan o'r system iechyd a gofal cymdeithasol a gyda phobl o bob oed.

Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru o wybodaeth ewch i.