Dau blentyn yn chwarae gartref

O ddadansoddi esgyrn i ddiogelu plant - "Mae fy ngwaith yn rhoi ymdeimlad mawr o bwrpas i mi!"

8 Awst

Mae Dr Verity Bennett, Cydymaith Ymchwil Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) ym Mhrifysgol Caerdydd, yn datblygu prosiectau sy'n ceisio defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) a dysgu peirianyddol i wella ymchwiliadau i anafiadau plant, diolch i gyllid gan Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Dywedodd Dr Bennett ei bod yn benderfynol o wneud gwelliannau sylweddol wrth nodi achosion o gam-drin corfforol yn fwy cywir ac yn gynharach drwy waith wedi’i ariannu gan y Dyfarniad Ymchwilydd sy’n Datblygu.

Dywedodd: "Mae gan dechnoleg AI botensial mawr, ond rydyn ni ond wedi crafu'r wyneb. Gallai ein helpu ni i wneud penderfyniadau mwy cywir am anafiadau plant ac ymyrryd yn gynharach mewn achosion o gam-drin, gan fod o fantais i blant a theuluoedd yn y pen draw."

Bydd ei hymchwil yn mynd i'r afael â bylchau allweddol yn y dulliau presennol o ddehongli anafiadau plant. Esboniodd Dr Bennett: "Un ffordd bosibl o roi AI ar waith yw defnyddio dysgu peirianyddol i ddadansoddi patrymau cleisiau, neu helpu i bennu oedran cleisiau gan ddefnyddio golwg cyfrifiadurol a nifer o fanylion cleifion. Gallai hyn effeithio'n sylweddol ar benderfyniadau diogelu plant trwy roi mwy o wybodaeth i weithwyr proffesiynol."

Mae'r Dyfarniad Ymchwilydd sy’n Datblygu wedi bod yn allweddol yn datblygu gyrfa Dr Bennett. Dywedodd: "Fel ymchwilydd sy’n datblygu, mae cael amser penodol wedi’i neilltuo yn hanfodol, yn enwedig mewn maes amlddisgyblaethol lle rydyn ni'n ceisio gwneud rhywbeth newydd, mae'n cymryd mwy o amser i ddatblygu prosiectau.

"Mae'r amser penodedig hwn yn fy ngalluogi i ddatblygu ceisiadau grant o ansawdd uchel a gwella fy sgiliau fy hun, sy'n hanfodol ar gyfer ysgogi’r ymchwil arloesol hwn yn ei flaen."

Pwysleisiodd hi hefyd bwysigrwydd cefnogaeth gan y Gyfadran sy'n ei galluogi i ymgysylltu â gwahanol weithwyr proffesiynol ac ymchwilwyr, a gwella ei sgiliau proffesiynol a thechnegol.

Dechreuodd taith Dr Bennett i'r maes ymchwil hwn gyda'i gradd israddedig a’i gradd meistr mewn gwyddorau naturiol, ac yna PhD yn canolbwyntio ar ddadansoddi delweddau 3D o benglogau mamaliaid i ateb cwestiynau ym maes bioleg esblygiadol.

Daeth newid yn ei gyrfa pan symudodd i Gymru a dechrau gweithio ym maes iechyd plant, wedi'i ysgogi gan angerdd dros gael effaith bendant ar fywydau plant agored i niwed.

Aeth yn ei blaen: “Mae plant yn haeddu'r dechrau gorau posibl mewn bywyd. Gall profiadau o gam-drin gael effaith drychinebus ar weddill eu bywydau."

Gosododd ei gwaith cychwynnol yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, a oedd yn cynnwys ymchwilio i anafiadau llosgi plant, sylfaen ar gyfer ei phwyslais presennol ar ddiogelu a deallusrwydd artiffisial.

Nod Dr Bennett yw dwysau dealltwriaeth o dechnegau deallusrwydd artiffisial, gwella cywirdeb a chysondeb asesu anafiadau, a datblygu datrysiadau arloesol ar gyfer diogelu plant.

Ychwanegodd: "Mae gen i ymdeimlad cryf o bwrpas yn y gwaith yr wyf i’n ei wneud nawr, sy'n cael effaith ar bobl – y bobl fwyaf agored i niwed – sydd â chymaint i'w ennill o welliannau ym maes diogelu."

Mae Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn agor sawl cynllun ariannu ym mis Medi a mis Hydref, gan gynnwys y Cynllun Ymchwilydd sy’n Datblygu, Dyfarniad y Cyflymydd Personol a’r Dyfarniad Datblygu Treialon

Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr i gael yr wybodaeth am ein cynlluniau ariannu yn uniongyrchol.