a_man_presenting_to_a_room_of_people

DECIPHer yn 15 oed: Dathlu gwaddol effaith iechyd y cyhoedd

27 Ionawr

Mae’r ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth ar gyfer Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer), a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi dathlu ei phen-blwydd yn 15 oed yr wythnos hon.

Daeth cydweithwyr presennol a chyn-gydweithwyr y ganolfan, ynghyd â chydweithredwyr a phartneriaid i’r digwyddiad - DECIPHer yn 15oed! – ar 21 Ionawr ym Mharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) Prifysgol Caerdydd.

Gwnaeth siaradwyr o’r ganolfan, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd amlygu sut mae gwaith DECIPHer ar wella iechyd a lles plant wedi gadael ei farc ar bolisïau ac arferion iechyd y cyhoedd, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y byd.

Gan ganolbwyntio ar bynciau fel iechyd meddwl, diet a maeth, ac atal ysmygu, mae’r ganolfan wedi cyhoeddi 938 o bapurau academaidd, wedi cefnogi 53 o raddau PhD hyd at eu terfyn ac wedi denu dros £163m mewn grantiau i Brifysgol Caerdydd.

Dywedodd yr Athro Simon Murphy, Cyfarwyddwr DECIPHer: "Mae dathliadau fel hyn yn bwysig iawn gan eu bod yn gyfleoedd i ddweud diolch.

"Mae wedi bod yn 15 mlynedd gyffrous a gwerthfawr. Bydd mwy o flynyddoedd ac maen nhw’n mynd i fod yr un mor werth chweil a chyffrous."

"Effaith ysgubol yng Nghymru"

Un enghraifft o effaith DECIPHer yw ei werthusiad o Fenter Brecwast am Ddim Ysgolion Cynradd a arweiniodd at gyllid parhaus ar gyfer y rhaglen.

Roedd hyn yn golygu erbyn 2016/17, bod 66% o ysgolion cynradd Cymru wedi gweithredu’r fenter - gan wella maeth plant a’u parodrwydd i ddysgu.

Mae ei raglen atal ysmygu arloesol, ASSIST, dan arweiniad cymheiriaid, wedi grymuso dros 160,000 o fyfyrwyr ac wedi ymestyn y tu hwnt i Gymru i wledydd fel Ffrainc, Colombia a Gogledd Iwerddon.

Mae’r ganolfan hefyd yn unigryw oherwydd ei grŵp cynghori ymchwil, Cyngor sy’n Arwain at Hybu Iechyd y Cyhoedd (ALPHA), o bobl ifanc 14-25 oed sy’n byw yn ne Cymru.

Mae’r grŵp wedi rhannu’u barn ac wedi helpu i lunio dros 100 o brosiectau ymchwil.

Dywedodd Dr Julie Bishop, Cyfarwyddwr Gwella Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyd-ymchwilydd DECIPHer: "Mae’n cael effaith arnom yn fyd-eang ac yn cael effaith aruthrol arnom yng Nghymru."

Bydd y ganolfan yn parhau i ganolbwyntio ar gryfderau ymchwil presennol gan gynnwys iechyd meddwl, defnyddio sylweddau ac iechyd rhywiol ac mae’n bwriadu defnyddio ei harbenigedd ar gyfer heriau iechyd cyhoeddus sy’n dod i’r amlwg yn y dyfodol.