
Y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer)
Mae DECIPHer yn dod ag arbenigwyr blaenllaw o amrywiaeth o ddisgyblaethau ynghyd i fynd i’r afael â materion iechydy cyhoedd gan gynnwys lles aciechyd meddwl, perthnasau cymdeithasol cadarnhaol, diet a maeth, ymarfer corfforol, ynghyd â thybaco, alcohol a chyffuriau. Maent yn canolbwyntio’n benodol ar ddatblygu a gwerthuso dulliau system aml-lefel, a fydd yn cael effaith ar iechyd a lles plant a phobl ifanc.