Deni from the block
Mae Dr Denitza Williams, Darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd a chyd-arweinydd cynnwys y cyhoedd yng Nghanolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi sôn am sut y llwyddodd i oresgyn anfanteision er mwyn dilyn ei gyrfa ddelfrydol a chydbwyso bywyd fel mam brysur i ddau ar yr un pryd.
Dim ond pum gair Saesneg yr oedd Dr Williams, sy’n hanu o Fwlgaria’n wreiddiol, yn eu gwybod pan symudodd i Gymru – ond gwnaeth hynny ddim ei hatal hi rhag dod yn brif ymchwilydd ym maes iechyd menywod a magu dau o blant o dan ddwy oed yn ystod ei PhD.
Yn ei harddegau, roedd gan Dr Williams – neu ‘Deni from the block’ – bosteri o Jennifer Lopez dros ei hystafell ym mhobman ac roedd hi’n ymarfer ei symudiadau dawns o flaen y drych. Fel oedolyn, fe gymerodd hi lwybr llai confensiynol i’r maes ymchwil, a hithau’n benderfynol o gydbwyso ei diddordebau academaidd â’i bywyd personol.
Dywedodd Dr Williams:
Er bod y byd academaidd traddodiadol yn aml yn mynnu ymroddiad llawn heb fawr o le ar gyfer bywyd personol, roeddwn i eisiau dangos nad oedd yn rhaid iddo fod felly. Nid yw ymroi i’r byd academaidd yn golygu bod pob nod ac uchelgais arall yn gorfod cael ei ohirio tan eich bod chi’n gorffen eich PhD. Cafodd fy awydd i briodi fy nghariad o’r ysgol uwchradd, prynu tŷ a dechrau teulu ar yr un pryd â chwblhau PhD, ei ystyried yn anghonfensiynol, ond fe wnaethon nhw lunio’r yrfa sydd gen i heddiw."
Yn y pen draw, gorffennodd Deni ei PhD mewn pedair blynedd tra roedd hi’n magu dau o blant. Ers hynny, mae hi wedi ennill Gwobr Ysgoloriaeth Audrey Jones Cynulliad Merched Cymru am ei gwaith PhD ym maes canser ceg y groth, Gwobr Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr a chafodd ei henwebu ar gyfer Gwobr Rising Star Womenspire Chwarae Teg.
Mae hi wedi sicrhau cyllid, gan ddod yn brif ymchwilydd ym maes iechyd menywod ac mae wedi cyhoeddi’i gwaith yn helaeth dros y blynyddoedd.
Mae neges Deni yn glir:
Mae pobl yn cymryd gwahanol lwybrau wrth fynd ar drywydd boddhad a hapusrwydd, ond nid yw’r ffaith nad eich ffordd chi neu fy ffordd i yw honno yn golygu eu bod nhw ar goll. Nid yw’r ffaith bod gennych chi uchelgeisiau sy’n wahanol i’r llwybr academaidd ‘safonol’ yn golygu na ddylech chi fod yma.”