Dr Simone Sebastiani

Dod â 'diwylliant ymchwil' i orllewin Cymru – gan lawfeddyg y colon a'r rhefr 'pwdlyd'

Mae llawfeddyg y colon a'r rhefr ymgynghorol sy'n gweithio yn 'yr ysbyty lleiaf yn y wlad' wedi rhannu ei angerdd ymchwil, a'r effaith y gall ymchwil ei chael yng nghynhadledd flynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2023.

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o lawfeddygon nad ydynt yn ymwneud ag ymchwil, mae Dr Simone Sebastiani bob amser wedi bod yn angerddol am ymchwil, er nad oedd ganddo amser a'r tîm i'w wneud.

Gyda chymorth ariannol gan Fenter Canser Moondance, sefydlodd Dr Sebastiani’n llwyddiannus ei bortffolio ymchwil ar ymchwil canser y colon a'r rhefr i bron i 600 o gleifion mewn 18 mis yn Hywel Dda, a meithrin ‘diwylliant ymchwil’ yn yr ysbyty a’r bwrdd iechyd.

Dywedodd Dr Sebastiani ei fod wedi credu y byddai ganddo amser i wneud ymchwil pan ddaeth yn ymgynghorydd. Yna sylweddolodd fod llawer o gyfrifoldeb, ac roedd yn eithaf anodd iddo ddod o hyd i'r amser i wneud ymchwil pan gyrhaeddodd yno.

Dywedodd: "Y man lle dwi'n gweithio yw'r ysbyty lleiaf ac o bosib yr ysbyty mwyaf gwledig yn y wlad.  Dyma'r lle olaf y byddech chi'n disgwyl gwneud ymchwil.   

"Ond pan wnes i gyfarfod â'n tîm ymchwil, fe wnaeth eu hangerdd ysbrydoli mwy o frwdfrydedd ynof. Sylweddolais hefyd, wrth ymyl yr ysbyty, fod gennym Brifysgol Aberystwyth sy'n weithgar iawn mewn ymchwil, gyda labordai o'r radd flaenaf.

"Yna cefais y Fenter Canser Moondance, a oedd yn ariannu dau hanner diwrnod bob wythnos i mi wneud ymchwil i helpu i gynyddu niferoedd ac ystod cleifion canser y coluddyn a oedd yn derbyn y cynnig o gyfle i gymryd rhan mewn profion clinigol."

Gyda'r adnoddau i gyd ar waith, dechreuodd Dr Sebastiani ar ei daith ymchwil. 

Ychwanegodd: Rydym yn gwybod bod gan unedau canser, sy'n weithgar mewn ymchwil, ganlyniadau gwell i gleifion. Dyna pam rydym am wthio am newid diwylliannol, a chael unedau i ddechrau gwneud ymchwil.

"Rydyn ni wedi meithrin diwylliant ymchwil yn ein hysbytai a'n bwrdd iechyd, a rhwydwaith gyda sefydliadau eraill. Rydym yn gobeithio parhau i wneud hyn a sicrhau ein bod ni gyd yn gwneud ymchwil."

Gwyliwch y sgwrs dull TED gan Dr Simone Sebastiani.

Cyflwynwch eich crynodeb heddiw.