menyw yn teipio ar liniadur

Dod yn fuan: Galwad newydd ar gyfer ceisiadau Ysgoloriaethau Ymchwil Doethuriaeth ym Maes Iechyd

2 Rhagfyr

Mae’n bleser gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyhoeddi y bydd galwad 2022 Ysgoloriaethau ar gyfer Doethuriaeth ym maes Iechyd yn agor ar 11 Ionawr.

Mae’r Ysgoloriaeth yn rhoi cyfle i unigolion talentog ymgymryd ag ymchwil ac astudiaethau sy’n arwain at ennill Doethuriaeth a chefnogi datblygu gallu  mewn ymchwil iechyd yng Nghymru..

Rydym yn croesawu ceisiadau gan oruchwylwyr arfaethedig; sef prif ymgeiswyr yr ysgoloriaeth. Nid yw’n ofynnol i’r myfyriwr fod wedi cael ei recriwtio yn ystod y cyfnod cais.

Bydd yr holl geisiadau sy’n bodloni’r cylch gwaith cyffredinol a nodir yng nghanllawiau’r galwad yn gymwys i gael eu hystyried. Fodd bynnag, yn ôl yr arfer mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi llunio meysydd blaenoriaeth ac yn croesawu’n arbennig geisiadau a fyddai’n  alinio gyda’r amcan iechyd a lles yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru 2021-2026; ac/neu yn rhoi sylw i’r heriau a nodir yn y cynllun Cymru Iachach, sef cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

Galwad yn agor: Dydd Mawrth 11 Ionawr 2022

Dyddiad cau: 16:00 ar Ddydd Gwener 18 Mawrth 2022

Gellir dod o hyd i wybodaeth gyffredinol ar yr Ysgoloriaeth Ymchwil Doethuriaeth ym Maes Iechyd ar ein Tudalen cynlluniau ariannu.