Gina Dolan
Rheolwr Academaidd. Cyd-arweinydd Ymchwil Ôl-radd Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil
Fel Arweinydd Ymchwil Ôl-radd yng Nghyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg ym Mhrifysgol De Cymru, a Chyd-arweinydd Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil (RCBC) Cymru, mae gwaith Gina yn canolbwyntio ar hybu ymgysylltiad ymchwil a meithrin gallu ymchwil. Mae Gina’n arwain Grŵp Gweithredol RCBC Cymru i ddatblygu a chyflawni’r cynllun ac ymestyn a gwella partneriaethau allanol. Mae ganddi dros 20 myned o brofiad mewn ymchwil cysylltiedig ag iechyd yn cynnwys addysg nyrsio, profiad cleifion, hunanreoli iechyd a gofal canser ac mae wedi cyhoeddi’n eang yn y meysydd hyn. Fel Cadeirydd Pwyllgor Graddau Ymchwil y Gyfadran, mae Gina’n ymdrechu i sicrhau y darperir rhaglen hyfforddiant a datblygiad ymchwil integredig o ansawdd uchel. Nodwedd gyson o’i gwaith yw meithrin ac ysbrydoli ymchwilwyr newydd i gael effaith gwirioneddol ar alwedigaethau ac ymarfer.
Yn y newyddion:
Cyfleoedd Cyllido Ymchwil 2020/2021: Cymrodoriaethau Ôl-Ddoethurol (Hydref 2021)