Durai Dharmaraj

Dr Dharmaraj Durai

Arweinydd arbenigedd ar gyfer Gastroenteroleg

Enillodd Dharmaraj ei gymhwyster fel meddyg ym 1995 ac, ar ôl cwblhau ei hyfforddiant ôl-raddedig yn y DU, bu’n dilyn hyfforddiant arbenigol uwch mewn gastroenteroleg gydag ymchwil ar ansawdd ym maes endosgopi gastroberfeddol. Sicrhaodd Dharmaraj PhD o Brifysgol Cymru, Abertawe yn 2005 ac, yn2006, daeth yn gastroenterolegydd ymgynghorol.

Mae gan Dharmaraj ddiddordeb arbennig mewn Clefyd llidiol y coluddyn (IBD) ac mae wedi mynd ati i gymryd rhan mewn ymchwil gan gyhoeddi nifer o erthyglau mewn cyfnodolion gwyddonol. Bu’n Ysgrifennydd i Gymdeithas Gastroenteroleg ac Endosgopi Cymru (WAGE) am 3 blynedd ac mae’n aelod gweithredol o adran ymchwil IBD Cymdeithas Gastroenteroleg Prydain (BSG) a bu’n aelod o’r grŵp datblygu canllawiau IBD. Mae hefyd yn Ben Ymchwilydd ar gyfer nifer o astudiaethau portffolio.

Fel Arweinydd Arbenigedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer Gastroenteroleg, mae’n gobeithio ehangu ymchwil ym maes gastroenteroleg yng Nghymru er budd cleifion, yr holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol a hyfforddeion.


Yn y newyddion:

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)

Cysylltwch â Dharmaraj

E-bost

Ffôn: 02920 744572