Dydd Sant Ffoland 2022: Y rhwydwaith ymchwil yn gobeithio gwella torcalon yng Nghymru
Mae clefyd cardiofascwlaidd ar draws y DU, ac yn arbennig yng Nghymru, wedi cyrraedd lefel epidemig. Caiff dros 30% o’r holl farwolaethau yng Nghymru eu hachosi gan glefyd cardiofascwlaidd, categori sydd yn cynnwys clefyd coronaidd y galon, methiant y galon, strôc a syndrom marwolaeth sydyn.
Er gwaethaf hyn¸ nid yw’r triniaethau a’r therapïau sydd ar gael i ddioddefwyr clefyd cardiofascwlaidd wedi newid ers degawdau.
Wrth drafod data ac ymchwil, mae’n bwysig darllen rhwng y llinellau. Ar yr wyneb, mae graddau marwolaeth oherwydd clefyd cardiofascwlaidd yn disgyn yn y rhai o dan 75 oed. Mae therapïau megis rheolyddion calon y gellir eu rhaglennu a diffibrilwyr y gellir eu mewnblannu wedi chwyldroi rheolaeth clefyd cardiofascwlaidd ac wedi helpu i achub bywydau.
Fodd bynnag, mae wedi gadael y DU gyda phroblem gofal iechyd enfawr: mae mwy o bobl yn goresgyn clefyd cardiofascwlaidd, ond yn byw gyda phrognosis hynod wael ac ansawdd bywyd isel iawn.
Mae hyn – ochr yn ochr gyda’r ffaith nad yw’r dyfeisiadau hyn yn gallu atal achosion clefyd y galon megis deiet gwael a diffyg ymarfer corff – wedi gadael Cymru gyda thasg enfawr sef mynd i’r afael â chyflwr gwael ei iechyd cardiofascwlaidd.
Chris George, Athro Cardioleg Molecwlaidd ym Mhrifysgol Abertawe, yw Cadeirydd y Rhwydwaith Ymchwil Cardiofascwlaidd Cenedlaethol (NCRN), sydd yn anelu at wella cydweithrediad rhwng gwahanol ddisgyblaethau ym meysydd ymchwil labordy, ymchwil clinigol a gwyddor data iechyd poblogaeth ar draws prifysgolion Cymru, y GIG a’r sectorau gofal iechyd.
Pam bod Cymru angen y Rhwydwaith Ymchwil Cardiofascwlaidd Cenedlaethol?
“Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau cardiofascwlaidd sydd yn wynebu Cymru, roedd angen fframwaith gydlynol i ddatblygu ymchwil cardiofascwlaidd. Dyma lle y ffurfiwyd partneriaeth rhwng Iechyd a Gofal Cymru a Sefydliad y Galon Prydain gan greu’r NCRN.
“Bwriad y Rhwydwaith yw cysylltu pobl a syniadau a hyrwyddo treialon, llwybrau a pholisïau clinigol a fydd yn ein helpu i wella iechyd cardiofascwlaidd y cleifion.”
Sut y gellir gwneud hyn?
“Rwyf yn gobeithio y bydd y rhwydwaith yn dod yn ganolbwynt i holl weithgareddau ymchwil cardiofascwlaidd ledled Cymru. Bydd hyn yn helpu i symleiddio gwaith ymchwil ac yn ein cynorthwyo ni i fonitro faint o ymchwil cardiofascwlaidd sydd yn digwydd yng Nghymru.
“Yn yr un modd, byddwn yn parhau i hyrwyddo cysylltiadau rhyngwladol mewn ymchwil cardiofascwlaidd. Bydd datblygu a chynnal perthynas dda y tu allan i’r wlad yn gwella cyfleoedd ymchwil.
“Gan barhau gyda’r thema o sefydlu perthynas, mae’r Rhwydwaith hefyd yn anelu at sefydlu ac annog partneriaethau aml-ddisgyblaethol trwy gydweithio gydag ymchwilwyr o du allan i ymchwil cardiofascwlaidd confensiynol. Gallai hyn olygu cysylltu gyda pheirianwyr, gwyddonwyr data a modelwyr cyfrifiaduron i weld pa sgiliau a gwybodaeth y gellir eu haddasu i fod o fudd i ni.
“Mae pandemig COFID-19 wedi amlygu’r modd y gellid trosglwyddo gwybodaeth wyddonol eang i fod yn ddylanwad clinigol cyflym pe byddai llinellau cyfathrebu rhwng yr holl randdeiliaid (clinigol, labordy, rheoleiddwyr, arianwyr, diwydiant fferyllol) yn glir, yn gyflym ac yn agored. Os gallwn wneud i ffwrdd â’r rhwystrau, gall unrhyw beth ddigwydd!”
“Byddwn hefyd yn parhau i adeiladu cysylltiadau cryf rhwng ymchwilwyr yn gweithio mewn meysydd cydafiachaidd allweddol, er enghraifft diabetes, dementia, strôc a chlefyd yr arennau.”
“Yn hollbwysig, bydd yr NCRN yn llywio cyfeiriad ymchwil cardiofascwlaidd yng Nghymru i gynnwys rhanddeiliaid ac arianwyr allanol, sydd yn allweddol bwysig i ddatblygu gallu.”
Mae pobl yn bwysig i’r Rhwydwaith
“Mae’r berthynas rhwng yr NCRN a phobl Cymru yn hynod bwysig. Rydym yn hyrwyddo ymchwil trwy ein nôd o wella diagnosis, triniaeth ac atal clefydau cardiofascwlaidd.
“Byddwn yn hyrwyddo cynnwys y cyhoedd yn ein gwaith ymchwil, er mwyn sicrhau bod y cyfan a wnawn yn cwrdd ag anghenion y boblogaeth.
“Bydd cynnwys cleifion a chlinigwyr yn ein helpu i ddefnyddio ein gwybodaeth am achos a lledaeniad clefyd y gallon ar gyfer datblygu gwell triniaethau.”
Os ydych am wybod mwy am y Rhwydwaith Ymchwil Cardiofascwlaidd Cenedlaethol, neu am drafod cydweithrediad, yna ewch i’n gwefan neu cysylltwch â’r Rhwydwaith.