Rhwydwaith Cenedlaethol Ymchwil Gardiofasgwlaidd logo

Rhwydwaith Cenedlaethol Ymchwil Gardiofasgwlaidd (NCRN)

Mae’r Rhwydwaith Cenedlaethol Ymchwil Gardiofasgwlaidd (NCRN) yn cefnogi academyddion, clinigwyr a rhanddeiliaid eraill ledled Cymru i gynyddu màs critigol mewn tri maes blaenoriaeth:

  1. dulliau haenedig ar gyfer mynd i'r afael ag arhythmiau
  2. ffisioleg fasgwlaidd drosiadol
  3. canlyniadau gofal iechyd cardiofasgwlaidd / gwyddoniaeth data

Mewn partneriaeth â Sefydliad Prydeinig y Galon, bydd y Rhwydwaith yn darparu fframwaith i ymchwilwyr Cymru fynd i’r afael â chwestiynau ymchwil allweddol, gan ddefnyddio dulliau rhyngddisgyblaethol, mewn perthynas â deall a thrin clefyd cardiofasgwlaidd. Mae gweithgareddau'r Rhwydwaith yn canolbwyntio ar gyfranogiad y cyhoedd ac ymchwil er budd y boblogaeth. Bydd yn:

  • datblygu’r ethos o ‘gleifion mewn cymdeithas’
  • manteisio ar y bylchau rhwng tystiolaeth ac arfer gorau ar gyfer effaith drosiadol uniongyrchol
  • manteisio i’r eithaf ar ddemograffeg cleifion Cymru ’i lywio astudiaethau ar lwybrau achosol clefyd cardiofasgwlaidd

Bydd NCRN yn creu seilwaith trosiadol ac iddo ffocws er mwyn galluogi cyflwyno treialon clinigol, llwybrau a/neu bolisi i gyflwyno'r hyn a ddysgwyd o weithgareddau ymchwil gwyddor sy’n seiliedig ar fecanweithiau, gwyddor fasgwlaidd a gwyddor data yn effeithiol ac yn briodol i'r parthau clinigol ac iechyd cyhoeddus.