“Sut y daeth ENRICH Cymru â fy syniad ymchwil gofal cymdeithasol yn fyw”
Mae'r Athro Andrew Carson-Stevens yn ymchwilydd rhyngwladol o fri ym maes diogelwch cleifion a mesur ansawdd gofal iechyd ac mae wedi gweithio'n helaeth gyda Sefydliad Iechyd y Byd i ddatblygu'r agenda diogelwch ym maes gofal sylfaenol.
Ar ôl profiadau personol o'r system gofal yn y cartref, roedd am droi ei sylw at archwilio diogelwch gofal a brofir gan bobl sy'n derbyn gofal gartref yn y gymuned ledled Cymru.
Dywedodd, "Roeddwn i wedi treulio ymhell dros ddegawd yn ennill profiad yn ymchwilio i niwed mewn gofal iechyd ond pan gefais syniad ymchwil gofal cymdeithasol, roedd yn teimlo fel fy mod i'n dechrau o'r dechrau. O wybod pwy yw pwy i wybod pa rwydweithiau neu randdeiliaid allweddol y gallwn eu cynnwys yn gynnar i ddatblygu a phrofi fy syniadau gyda nhw.”
Ar ôl cyflwyniad gan gydweithwyr yng Nghanolfan PRIME Cymru, cafodd ei gysylltu ag ENRICH Cymru a fu’n rhan annatod o ddatblygu ei syniadau yn gais am gyllid.
Rhwydwaith ymchwil ledled Cymru gyfan o gartrefi gofal yw Galluogi Ymchwil Mewn Cartrefi Gofal (ENRICH Cymru) sy'n cefnogi'r gwaith o ddarparu a hwyluso ymchwil o ansawdd uchel ledled y wlad i fynd i'r afael â materion cyfredol yn y sector cartrefi gofal.
Dywedodd yr Athro Carson-Stevens: "Fe wnes i ddarganfod ENRICH Cymru tra roeddwn i'n llunio cysyniad fy syniadau ymchwil."
“Roedd gwerth y wybodaeth gan y tîm, a'r cysylltiadau a'r berthynas yr wyf wedi ei datblygu ag eraill o ganlyniad wedi fy ngalluogi i wirio dichonoldeb fy syniadau ymchwil yn gynnar.”
Wedi'i ariannu gan Ganolfan Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a'r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia, gan weithio gyda Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor, mae'r rhwydwaith yn hyrwyddo cyfnewid syniadau a gwybodaeth, ac yn meithrin cyd-greu ymchwil - gan ddod â staff, preswylwyr a theuluoedd cartrefi gofal ynghyd ag ymchwilwyr fel Andrew.
Ychwanegodd:
Roedd gweithio gydag ENRICH Cymru yn fy ngalluogi i deimlo'n hyderus yn y dewisiadau a wnaeth fy nhîm am ein dulliau ymchwil, ac yn enwedig sut y byddaf yn recriwtio cyfranogwyr. Buon nhw’n gweithio gyda fi i ddeall cyd-destun y sector cartrefi gofal, polisïau pwysig ac ymchwil hyd yma yn y maes. Roedden nhw wir yn gatalydd yn natblygiad fy nghais.”
“Cefais y sicrwydd yr oeddwn ei angen ar adegau tyngedfennol i feithrin fy syniad er mwyn eu gwireddu.”
Dywedodd Dr Deborah Morgan, Rheolwr Ymchwil ENRICH Cymru: "Dyma ffordd arall y gall ENRICH Cymru gefnogi ymchwil gofal cymdeithasol sy'n newid bywydau.
“Rydyn ni’n cysylltu ymchwilwyr â chartrefi gofal, preswylwyr a'u teuluoedd ac rydyn ni’n hyrwyddo ymchwilwyr o Gymru i wella'r sector gofal gobeithio yng Nghymru ac ar draws y DU. Fe wnaethom adolygu dogfennau ei gynnig, gwneud cysylltiadau ag uwch weithwyr proffesiynol cartrefi gofal a darparu cyngor ac arweiniad ar ddulliau ymchwil yr ydym yn gwybod y bydden nhw’n gweithio.”
“Mae Andrew yn ymchwilydd arobryn medrus iawn, ond roedd angen ein gwybodaeth benodol arno i helpu i ddatblygu ei gais. Fe wnaethon ni fwynhau gweithio gydag Andrew a gweld ei angerdd, rydyn ni'n edrych ymlaen at ddilyn ei daith ymchwil gofal cymdeithasol.”