Yr Athro Mererid Evans
Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Canser Cymru
Mae yr Athro Mererid Evans yn Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC), Athro Clinigol yn yr Is-adran Canser a Geneteg, Prifysgol Caerdydd, ac Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol Anrhydeddus yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, gan arbenigo mewn trin cleifion â chanser y pen a'r gwddf. Fel Cyfarwyddwr WCRC mae hi'n goruchwylio buddsoddiad blynyddol o tua £1 miliwn gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru mewn ymchwil canser yng Nghymru, ac mae, gyda chydweithwyr o WCRC a seilweithiau eraill yng Nghymru, yn arwain y gwaith o weithredu Strategaeth Ymchwil Canser Cymru Gyfan (CReSt) a lansiwyd yn 2022.
Yn raddedig o Goleg Meddygaeth Prifysgol Cymru, derbyniodd PhD yn 2001 am ei hymchwil i ymatebion imiwnedd i feirws Papiloma Dynol (HPV) mewn cleifion â chanser ceg y groth. Ar hyn o bryd hi yw Prif Ymchwilydd PATHOS, treial clinigol rheoledig aml-ganolfan, rhyngwladol, a ariennir gan CRUK, gyda'r nod o ddatblygu triniaeth fwy caredig i gleifion â chanser y pen a'r gwddf sy'n gysylltiedig â HPV. Mae hi hefyd yn Brif Ymchwilydd PEARL, treial clinigol aml-ganolfan yn y DU o radiotherapi addasol PET ar gyfer trin canser y pen a'r gwddf sy'n gysylltiedig â HPV.
Mae hi wedi datblygu cysylltiadau cenedlaethol a rhyngwladol drwy ei hymchwil ac yn cyd-arwain nifer o brosiectau ymchwil ym Mhrifysgol Lerpwl, a dyfarnwyd iddi Athrawes Gwadd er Anrhydedd yn 2016. Yn 2019 penodwyd yr Athro Evans yn Ddirprwy Gadeirydd Grŵp Ymchwil Radiotherapi y Sefydliad Ymchwil Canser Cenedlaethol, CTRad, gan gydlynu a gosod cyfeiriad strategol ar gyfer ymchwil radiotherapi yn y DU. Ar hyn o bryd mae'n Arweinydd Cyswllt Thema Canser ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae'n Arweinydd Strategol Clinigol ar gyfer Uchelgais Ymchwil Canser Felindre 2021-31.
Yn y newyddion:
Dadorchuddio map trywydd newydd i hybu ymchwil canser i gleifion ledled Cymru (Gorffennaf 2022)
Sefydliad
Canolfan Ymchwil Canser Cymru
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Cysylltwch â Mererid