Dr Jordan Evans

Dr Jordan Evans

Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Gwobr: Dyfarniad Amser Ymchwil y GIG


Bywgraffiad

Mae Dr Jordan Evans yn Feddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Frys Bediatrig yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. 

Graddiodd mewn Meddygaeth (MBBS), gyda gradd BSc dosbarth cyntaf (Niwrowyddoniaeth) o Goleg Imperial Llundain yn 2011.

Jordan yw arweinydd ymchwil yr Uned Achosion Brys Pediatrig yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys popeth sy'n ymwneud â gofal brys plant sâl ac anafedig gyda diddordeb arbennig mewn heintiau difrifol a sepsis. Mae wedi cyhoeddi gweithiau ar bronciolitis, llid yr isgroen orbitol, trawma mawr, COVID-19 a sepsis.  

Jordan yw arweinydd safle Ysbyty Athrofaol Cymru ar gyfer PERUKI (Ymchwil ym maes Meddygaeth Frys Bediatrig yn y DU ac Iwerddon) ac mae'n aelod o'r Pwyllgor Llywio Ymchwil. Mae wedi derbyn Gwobr Amser Ymchwil oddi wrth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (2023) ac mae'n cael ei oruchwylio gan Dr Tom Waterfield (Prifysgol Queen's, Belfast).


Darllen mwy am Jordan a’u gwaith:

Enwau’r rheini sydd wedi derbyn Dyfarniadau Amser Ymchwil GIG 2022 wedi’u cyhoeddi

 


 

Sefydliad

Consultant in Paediatric Emergency Medicine at Cardiff & Vale University Health Board

Cyswllt Jordan

Tel: 02921 847497 

E-bost

Twitter