Dr Kieran Foley
Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Dyfarniad Amser Ymchwil y GIG (2019 - 2023)
Teitl y prosiect: To develop Stereotactic Ablative Body Radiotherapy (SABR) in Wales
Bywgraffiad
Radiolegydd ymgynghorol yw Dr Kieran Foley sydd â diddordeb mewn delweddu oncolegol, a malaenedd gastroberfeddol, graddoli clefydau, cywirdeb diagnostig, rhagweld canlyniadau a threialon clinigol yn benodol. Cwblhaodd ddoethuriaeth mewn graddoli canser oesoffagaidd ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2018. Mae Kieran yn arwain astudiaethau cenedlaethol cydweithredol ac yn swyddog ymchwil i Gymdeithas Radioleg Gastroberfeddol a’r Abdomen Prydain (BSGAR). Mae Kieran yn gymrawd ymchwil glinigol goruchwylio yn ymchwilio i fioddangosyddion delweddu o ran canser oesoffagaidd. Ei nod yw darparu ymchwil radioleg glinigol o ansawdd uchel a fydd o fudd i gleifion yng Nghymru.
Darllen mwy am Kieran a’u gwaith:
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi enwau enillwyr dros £5 miliwn o wobrau ariannol am 2019-20