Professor Andrew Fry

Dr Andrew Fry

Cyfarwyddwr

Mae Andrew Fry yn Uwch Ddarlithydd Clinigol mewn Geneteg Meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd a Genetegydd Clinigol Ymgynghorol Anrhydeddus yng Ngwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan. Astudiodd Andrew feddygaeth ym Mhrifysgol Glasgow. Yn ystod ei gyfnod yn yr ysgol feddygol cwblhaodd radd ryngosodol mewn bioleg foleciwlaidd. Ar ôl graddio gyda rhagoriaeth yn 2000, hyfforddodd Andrew mewn pediatreg yn Llundain a Maidstone. Yna bu’n Gymrawd Hyfforddi Ymchwil Glinigol Ymddiriedolaeth Wellcome yn Rhydychen. Yn ystod ei ymchwil ddoethurol astudiodd sut mae amrywiaeth genetig cyffredin yn cyfrannu at ragdueddiad difrifol i gael malaria. Yna hyfforddodd Andrew mewn Geneteg Glinigol yng Nghymru. Mae ei ymchwil yn ystod y degawd diwethaf wedi canolbwyntio ar ddefnyddio technolegau profi genomig newydd i ymchwilio i sail genetig anhwylderau cynnar yr ymennydd. Penodwyd Andrew yn Uwch Ddarlithydd Clinigol ym mis Awst 2017 ac yn Gyfarwyddwr Parc Geneteg Cymru ym mis Ebrill 2020.


In the news:

£6.4 miliwn i gefnogi ymchwil gofal cymdeithasol ac iechyd hanfodol yng Nghymru (Hydref 2022)

Sefydliad

Parc Geneteg Cymru

Cysylltwch â Andrew

E-bost

Tel: 02920 74 3151