
Gallai astudiaeth i blatennau wedi'u storio'n oer helpu i chwyldroi gofal trawma cyn mynd i’r ysbyty
1 Awst
Gallai canfyddiadau astudiaeth a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru nodi datblygiad byd-eang mewn gofal brys i gleifion trawma cyn iddynt gyrraedd yr ysbyty.
Gweithiodd ymchwilwyr yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru a’r Gwasanaethau Meddygol Amddiffyn ar y cyd â'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) i archwilio a allai storio platennau gwaed ar dymheredd oerach wella canlyniadau cleifion ac achub mwy o fywydau yn dilyn anaf trawmatig difrifol.
Gallai'r gwaith hwn bellach lywio treial clinigol dan arweiniad Dr Chloë George, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol a Phennaeth Datblygu Cyfansoddion yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru a Dr Tom Scorer, Haematolegydd Ymgynghorol yn Ysbytai’r Llynges Frenhinol ac Ysbytai Prifysgolion, Plymouth. Mae Dr George wedi derbyn y Grant Datblygu Treialon gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Gweithiodd Dr Jamie Nash ar yr astudiaeth ymchwil o dan oruchwyliaeth Dr Christine Saunders, Dadansoddwr Datblygu yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru.
Platennau, sydd fel "plwg mewn bath" yn ôl y tîm ymchwil, yw'r celloedd yn y gwaed sy'n helpu i ffurfio clotiau gan atal gwaedu ac sy’n cael eu defnyddio i drin a helpu i atal gwaedu difrifol, ac mae'n rhaid iddynt gael eu trallwyso mewn ysbytai.
Trawma, sy'n gallu cael ei achosi gan anafiadau trawmatig trwy ddamweiniau traffig ffyrdd, troseddau treisgar a chwympo, yw un o brif achosion marwolaeth ac anabledd yn y DU, gan gymryd 17,000 o fywydau bob blwyddyn.
Er bod celloedd coch y gwaed eisoes yn cael eu cario mewn rhai cerbydau brys, mae platennau yn heriol i’w storio a'u cludo. Ar hyn o bryd mae angen eu hysgwyd yn barhaus a'u cadw ar dymheredd ystafell (20-24oC), sy'n golygu nad yw’n ymarferol iddynt fod ar gael ar gyfer eu trallwyso cyn i glaf gyrraedd yr ysbyty.
Mae ymchwil ddiweddar wedi canfod ei bod yn bosibl storio platennau yn oer (4-6 oC), y tymheredd arferol o fewn oergell gwaed labordy (platennau a gedwir yn oer). Dywedodd Dr Scorer, sydd wedi bod yn ymchwilio i blatennau a gedwir yn oer am dros ddegawd “Mae sawl budd i blatennau a gedwir yn oer o gymharu â phlatennau sy’n cael eu cadw ar dymheredd ystafell gan fod ganddyn oes silff hirach – gan leihau gwastraff, llai o risg o halogiad bacterol ac mewn astudiaethau labordy, maent yn well am atal gwaedu. Bydd storio mewn oergell hefyd yn galluogi trallwyso platennau mewn lleoliadau nad oedd yn bosibl yn flaenorol.”
Am y tro cyntaf yn fyd-eang, gwnaeth Dr Nash a'r tîm ymchwil ddarganfod bod platennau sy’n cael eu storio'n oer yn angenrheidiol mewn gofal trawma a gellir eu cludo gan ambiwlansys awyr neu gerbydau brys, gan bara hyd at 84 awr – yn hirach na'r 72 awr a ddilyswyd yn flaenorol.
Mae hyn yn golygu y gallai'r platennau sy’n cael eu storio'n oer gael eu cludo ynghyd ag unedau gwaed coch mewn ceir brys ac ambiwlansys awyr, o bosibl yn rhan o becyn gofal trallwyso sy’n cael ei roi i gleifion cyn iddynt gyrraedd yr ysbyty.
Dywedodd Dr Nash bod canlyniadau'r astudiaeth yn "galonogol iawn" gan ddweud: "Mae amser yn allweddol wrth drin cleifion â gwaedu difrifol ac rydym yn gwybod o ganlyniadau rywfaint o dystiolaeth ymchwil ei bod yn bosibl lleihau nifer y marwolaethau ac amser aros yn yr ysbyty os caiff y driniaeth gofal critigol ei rhoi i gleifion trawma cyn iddynt gyrraedd yr ysbyty."
Cyhoeddwyd y canlyniadau yn y Journal of Transfusion yn mis Mawrth eleni.
Ychwanegodd Dr Nash: "Os byddem yn gallu profi mewn treial clinigol bod y platennau sy’n cael eu storio'n oer yn ddiogel, yn ymarferol ac yn effeithiol, byddent yn fwy na thebyg yn cael eu defnyddio mewn cyfnod o waedu sylweddol y tu allan i'r ysbyty lle y byddai Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys, naill ai mewn ambiwlans awyr neu ar y ffordd yn mynd at glaf sydd angen trallwysiad gwaed y tu allan i'r ysbyty."
Dywedodd David Lockey, Cyfarwyddwr Cenedlaethol EMRTS: "Er gwaethaf datblygiadau mawr, mae gwaedu yn dal i fod yn brif achos marwolaeth y byddai’n bosibl ei hatal yn ein cleifion trawma. Mae defnyddio platennau’n effeithiol cyn mynd i’r ysbyty yn ddarn arall o'r pos sydd â'r potensial i wella gofal ac achub bywydau. Rydym yn falch iawn o fod wedi bod yn rhan o'r prosiect hwn gyda'r gwasanaeth trallwyso."
Dywedodd y tîm ymchwil mai cam nesaf Gwasanaeth Gwaed Cymru yw sefydlu treial clinigol i bennu effeithiolrwydd a'r dull gorau o roi’r platennau sy’n cael eu storio'n oer.
Y gobaith yw y bydd hyn wedyn yn dod yn arfer safonol ledled y DU ac yn rhyngwladol.
Tanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr wythnosol i gael newyddion a’r diweddaraf o fyd ymchwil, cyfleoedd ariannu a gwybodaeth ddefnyddiol arall.