
Galw am Ddatganiadau o Ddiddordeb i fod yn aelodau o Bwyllgor Llywio Canolfan Ymchwil Canser Cymru/Strategaeth Ymchwil Canser Cymru
22 Chwefror
Gwahoddir nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a chynrychiolwyr seilwaith treialon clinigol i ddatgan diddordeb mewn ymuno â phwyllgor llywio sy'n cydlynu gweithrediad Strategaeth Ymchwil Canser Cymru (CReSt).
Mae Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) yn cydlynu gweithgarwch i weithredu'r strategaeth, yn ogystal â gweithgarwch craidd WCRC. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar chwe thema ymchwil â blaenoriaeth y strategaeth:
- Oncoleg mecanistig a manwl
- Imiwno-oncoleg
- Radiotherapi
- Treialon clinigol canser
- Oncoleg cefnogol a lliniarol
- Dulliau atal canser yn seiliedig ar iechyd y boblogaeth, diagnosis cynnar, gofal sylfaenol ac ymchwil gwasanaethau iechyd.
Mae Pwyllgor Llywio WCRC/CreST yn cael ei sefydlu i gyfarfod ddwywaith y flwyddyn i gynnig cyngor arbenigol a mewnbwn strategol i weithgareddau WCRC a gweithrediad ehangach CReST.
I fod yn gymwys i ymuno, rhaid i chi fod wedi’ch lleoli yng Nghymru, yn cymryd rhan mewn gweithgarwch sy'n gysylltiedig ag ymchwil sy'n gwbl berthnasol neu'n rhannol berthnasol i ganser (neu’n ei reoli), ac ni ddylech fod yn derbyn cyllid WCRC ar hyn o bryd, nac yn arweinydd academaidd CReST.
Mae’r swyddi ar hyn o bryd tan 2025, a bydd aelodaeth yn cael ei chylchdroi bryd hynny er mwyn rhoi cyfleoedd i eraill gymryd rhan yn y dyfodol.
Anfonwch eich Datganiad o Ddiddordeb i wcrc@cardiff.ac.uk erbyn 21 Mawrth 2025