Mae'r Athro Dean Harris

Gallai prawf gwaed pigiad bys meddyg teulu drawsnewid diagnosis canser y coluddyn yng Nghymru

Mae cleifion yng Nghymru yn chwarae rhan bwysig yn y ffordd y mae canser y coluddyn yn cael diagnosis, diolch i astudiaeth ymchwil flaenllaw sy'n anelu at wella canfod a diagnosteg wrth osgoi triniaethau ymwthiol fel colonoscopïau.

Mae'r Athro Dean Harris, llawfeddyg ymgynghorol y colon a'r rhefr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, yn arwain astudiaethau sy'n archwilio dichonoldeb prawf gwaed newydd mewn gofal sylfaenol, sy'n cynnig diagnosis cyflymach i gleifion sydd mewn perygl o gael canser y colon a'r rhefr ac yn osgoi gweithdrefnau diagnostig ymwthiol fel colonosgopi.

Canser y coluddyn yw'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin yng Nghymru ac mae'n anodd ei ganfod, yn aml yn cael diagnosis yn ei gamau hwyr wrth i symptomau fel gwaedu rhefrol ac arferion coluddion newidiol ddechrau dangos.

Dywedodd yr Athro Harris ei fod ef a'i dîm wedi llwyddo i recriwtio tua 3,000 o gleifion hyd yma ar draws Cymru, drwy gyllid hael gan Ymchwil Canser Cymru ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Maen nhw'n ehangu'r prawf fel y byddai ar gael i gleifion GIG Cymru yn 2024 trwy gwmni deillio Prifysgol Abertawe CanSense.

Ychwanegodd: "Rydym yn gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i boblogaethau sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol, er mwyn galluogi mwy o bobl sydd â symptomau i ddod ymlaen at eu meddygon teulu fel y gallwn symud y nodwydd tuag at ganfod yn gynnar.

"Dim ond y cyntaf ar ein platfform profi gwaed yw’r colon a'r rhefr. Rydym hefyd yn gyffrous i edrych ar fathau eraill o ganser.  Gallem yn hawdd ailadrodd hyn gyda chanser y fron, canser yr ysgyfaint ac unrhyw un o’r canserau prinnach eraill."

Wrth siarad yng Nghynhadledd Ymchwil a Datblygu Cwm Taf Morgannwg 2023, canmolodd yr Athro Harris hefyd fanteision sylweddol Dull Cymru'n Un i gyflymu ymchwil glinigol.

Ychwanegodd: "Rwy'n credu ei fod yn anfon arwydd cryf iawn i'r DU a gweddill y byd mai Cymru yw'r lle i wneud ymchwil.  Rydym wedi dangos trwy gydol yr astudiaethau y gallwn recriwtio a chyflwyno ymchwil ar gyflymder a graddfa. 

"Dyma'r lle i ddod iddo ar gyfer diwydiant i roi cynnig ar ffyrdd arloesol newydd o weithio a fydd yn y pen draw o gymorth enfawr i'r GIG."