Gweinyddwr Prosiect - Rhwydwaith Cenedlaethol Ymchwil Gardiofasgwlaidd

Mae'r Rhwydwaith Cenedlaethol Ymchwil Gardiofasgwlaidd yn Ganolfan Gynaliadwy newydd, a ariennir gan y buddsoddiad diweddar o £48 miliwn ar gyfer ymchwil gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae'n unigryw oherwydd dyma'r unig Ganolfan i dderbyn cyllid ychwanegol drwy bartneriaeth gyda’r British Heart Foundation. Mae'r Rhwydwaith yn gweithredu ar draws Cymru gyfan ac yn gosod sylfaen ar gyfer cynghrair cydweithredol rhwng ymchwilwyr, clinigwyr, cleifion, y cyhoedd, prifysgolion a byrddau iechyd i wella màs critigol a rhagoriaeth mewn ymchwil gardiofasgwlaidd.

Bydd y gwaith hwn yn cynnwys amrywiaeth eang o swyddogaethau gweinyddol i gefnogi Tîm Arweinyddiaeth y Rhwydwaith Cenedlaethol Ymchwil Gardiofasgwlaidd, gan gynnwys gweinyddu cynlluniau prosiectau, ymgysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid, cynorthwyo gyda chyllidebau, monitro a chyflwyno adroddiadau, mewnbynnu data, rheoli amserlenni a rhoi cymorth gweinyddol ar adegau gwahanol y prosiect: gweithredu, cynllunio, cyflawni a chwblhau'r prosiect.

Contract type: Contract cyfyngedig
Hours: 17.5 awr yr wythnos
Salary: £26,338 i £29,179 y flwyddyn
Lleoliad: Campws Singleton, Abertawe
Job reference:
SU00940
Closing date: