Two researchers talking to one another

Gwobrau Hyfforddiant Ymchwil 2023 Newydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru nawr ar agor

22 Mawrth

Mae'r alwad ariannu yma bellach ar gau

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch o gyhoeddi bod rownd gyntaf y Gwobrau Hyfforddiant Ymchwil bellach ar agor.

Bydd y cynllun hwn yn darparu cyllid (ffioedd dysgu a chymorth cyflog rhannol) i ymgymryd â gradd Meistr mewn Ymchwil neu ddyfarniad hyfforddiant ymchwil lefel-M cyfatebol mewn ymchwil iechyd cymhwysol a/neu ofal cymdeithasol gan ddechrau ym mlwyddyn academaidd 2023.

Bydd y cyfle yn agored i staff sy’n gweithio yn GIG Cymru, gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion neu wasanaethau gofal cymdeithasol plant awdurdodau lleol, neu ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol annibynnol fel gofal sylfaenol, fferylliaeth gymunedol, gofal preswyl i oedolion neu blant, neu ofal cartref. Bwriedir y wobr i’r rheini sydd yng nghamau cynnar eu gyrfa ymchwil (nid o reidrwydd cam clinigol cynnar neu yrfa ymarfer) i'w cefnogi i ddatblygu sgiliau ymchwil cymhwysol a chymryd y camau cyntaf ar eu taith ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

Dylai fod gan ymgeiswyr ddiddordeb amlwg mewn datblygu eu sgiliau ymchwil a dylent anelu at ddatblygu eu gyrfa ymchwil ymhellach yn dilyn y cwrs hwn.

Bydd y ffenestr gais bellach ar gau.

Meddygfa Gwobr Hyfforddiant Ymchwil