Jeremy Hall

Professor Jeremy Hall

Gwobrau prosiect Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Gwobr: Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd (RfPPB) Cymru (Hydref 2018-Ionawr 2022)

Teitl y prosiect: Treating Anxiety to PrevEnt Relapse in Schizophrenia (TAPERS) - a feasibility trial


Mae’r Athro Jeremy Hall yn ymddiddori’n gyffredinol yn rôl ffactorau risg genetig ac amgylcheddol yn natblygiad anhwylderau niwroddatblygiadol fel sgitsoffrenia, awtistiaeth ac anhwylderau personoliaeth cysylltiedig.

Yn  ei waith, mae’n defnyddio dull trosiadol o weithredu i astudio sut y mae ffactorau risg genetig ac amgylcheddol yn ehangu’r risg ar gyfer salwch meddwl.

Mae gan Jeremy ddiddordeb penodol mewn sut y mae ffactorau risg genetig a nodir yn effeithio ar brosesau dysgu yn yr ymennydd; abnormaleddau sydd wrth wraidd y symptomau allweddol a welir mewn amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl.

Yn gyffredinol, mae o’r farn bod deall sut y mae ffactorau risg genetig yn dylanwadu ar yr ymennydd a sut y mae symbylyddion amgylcheddol yn addasu’r ymatebion hyn yn hanfodol i ddatblygu triniaethau newydd ar gyfer salwch seiciatrig.

Yn ogystal â’i waith cyn-glinigol, mae hefyd yn cynnal ymchwil a gwaith clinigol ym meysydd anhwylderau niwroddatblygiadol oedolion a seicosis cynnar.


Yn y newyddion:

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)

Contact Jeremy

Email