
Dr Isobella Honeybourne
Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Dyfarniad Cymrodoriaeth Uwch Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Teitl y prosiect: From serum to solution: detecting RNA biomarkers in extracellular vesicles for non-invasive prostate cancer screening (2025-2029)
Bywgraffiad
Mae Dr Isobella Honeyborne yn arbenigo mewn datblygu adnoddau diagnosteg, gydag arbenigedd sy’n rhychwantu ymchwil clefydau heintus a chanser. Creodd y Biobrawf Moleciwlaidd Llwyth Bacterol (Molecular Bacterial Load Assay) ar gyfer twbercwlosis, y dull moleciwlaidd cyntaf sy'n gallu meintioli bacteria byw mewn poer i fesur ymateb i driniaeth, ac wedi hynny ei ddatblygu i READ-TB, fersiwn lled-awtomataidd. Mae ei gyrfa yn cynnwys cydweithio rhyngwladol ar glwy Lassa, twbercwlosis a chanser, gan adlewyrchu ei hymrwymiad i iechyd byd-eang ac ymchwil drosiannol. Mae hi'n angerddol am sicrhau bod adnoddau diagnosteg yn hygyrch, gan ganolbwyntio’n benodol ar glefydau sy'n effeithio ar wledydd incwm isel ac incwm canolig.
Mae hi bellach wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae'n gweithio yn y gymuned ymchwil fesiclau allgellog (EV). Bydd ei Chymrodoriaeth Uwch Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn sefydlu biobrawf EV-RNA yn seiliedig ar serwm i wahaniaethu rhwng graddau canser y prostad gan ddefnyddio marcwyr gwaed, gyda'r nod o leihau'r angen am biopsïau ymwthiol ac yn y pen draw darparu offeryn sgrinio clinigol hyfyw. Mae hi hefyd yn ymroddedig i addysgu, mentora a chynnwys cleifion a’r cyhoeddus mewn ymchwil.