Danielle Huckle

Dr Danielle Huckle

Arweinydd Arbenigedd ar gyfer Anesthesia, Meddygaeth Amdriniaethol a Rheoli Poen

Ar ôl cwblhau ei hyfforddiant meddygol yn Llundain, ynghyd ag iBSc mewn niwrowyddoniaeth wybyddol, bu Danielle yn gweithio yn Llundain ac Awstralia cyn symud yn ôl i Gaerdydd, ei dinas enedigol. Mae ei hyfforddiant mewn anesthesia arbenigol i gyd wedi bod yng Nghymru a daeth yn anesthetydd ymgynghorol yn 2018 ac yn Uwch Ddarlithydd Anrhydeddus i Brifysgol Caerdydd yn 2020. Un rhan o’i rôl fel ymgynghorydd yw bod yn arweinydd Y&D ar gyfer Cyfarwyddiaeth Gofal Amdriniaethol BIP Caerdydd a’r Fro.

Roedd a wnelo astudiaethau PhD Dr Huckle â chanfod endotocsin mewn cleifion â sepsis, gan ddefnyddio dull canfod o’r enw argraffu moleciwlaidd, gan weithio yn labordai Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, Ysgol Cemeg ac Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd. Mae ganddi ddiddordebau ymchwil amrywiol, pob un yn edrych ar ddefnyddio technolegau tarfol a sefydledig i wella gofal cleifion ar eu siwrnai lawfeddygol. Hefyd, mae ganddi ddiddordeb clinigol mewn anesthesia brys a thrawma ac mae’n awyddus i ehangu ein cyfraniad at waith treialon o ansawdd uchel yn y meysydd hyn.


Yn y newyddion:

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)

Cysylltwch â Danielle

E-bost

Ffôn: 02920743109