two people  hiking

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd y Meddwl: Hyrwyddo lles meddyliol pobl ifanc drwy ymgysylltu â natur

16 Mai

Mae Dr Sara Bradley, Uwch Gymrawd yn Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi partneru â GIG Ucheldiroedd yr Alban ar raglen gyda myfyrwyr ysgol uwchradd i hyrwyddo lles meddwl trwy ymgysylltu â byd natur.

Mae’r prosiect, dan arweiniad Dr Bradley a Dr Nick Barnes, GIG Ucheldiroedd yr Alban, wedi sicrhau £149,980 gan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer 'Meddyliau Ifanc Iach', rhaglen ymyrraeth gynnar a fydd yn cael ei gyd-gynhyrchu gyda myfyrwyr o bum ysgol uwchradd wledig yn Ucheldiroedd yr Alban. Y nod yw hyrwyddo lles meddyliol, cynyddu gwytnwch a lleihau pryder.

Dywedodd Dr Bradley:  "Mae llawer o bobl ifanc yn profi iechyd meddwl gwael, ac mae lefelau pryder yn cynyddu, wedi'u sbarduno gan ofnau am faterion fel newid yn yr hinsawdd, arholiadau, delwedd y corff a seiberfwlio. 

"Y nod yw datblygu syniadau ar gyfer ymyrraeth lles sy'n seiliedig ar natur trwy gyfres o weithdai gyda myfyrwyr.  Mae cynnwys y myfyrwyr yn nyluniad y rhaglen yn allweddol i'w cynnwys a'u hysgogi. 

"Bydd eu galluogi i gymryd perchnogaeth yn cynyddu'r siawns o dderbynioldeb, mabwysiadu a chynaliadwyedd.  Bydd y gweithdai yn cynyddu hunanhyder, yn meithrin sgiliau ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod eu barn ar iechyd meddwl.

"Ein nod yw datblygu fframwaith ymyrraeth i'w dreialu mewn peilot dilynol."

Cofrestrwch i'n cylchlythyr wythnosol a chadwch i fyny â'r newyddion ymchwil a’r cyfleoedd ariannu diweddaraf, a gwybodaeth ddefnyddiol arall.