WSSPR logo

Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru (WSSPR)

Mae Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru yn ysgol rithwir Cymru gyfan, sy'n ceisio adeiladu sylfaen dystiolaeth hollbwysig flaenllaw ar gyfer rhagnodi cymdeithasol yng Nghymru, gan ddefnyddio model ymchwil trosiadol i sicrhau bod canfyddiadau yn cael effaith fawr ar y byd academaidd, ymarfer a pholisi.

Mae Ymchwil Iechyd  Gofal Cymru wedi ariannu rhaglen waith Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru (WSSPR) i ddatblygu methodoleg gwerthuso rhagnodi cymdeithasol. Law yn llaw â’r gwaith hwn, mae rhaglenni eraill a ariennir yn cynnwys gwerthoedd cymdeithasol, addysg a llesiant. Mae’r WSSPR yn adeiladu ar waith a gwblhawyd yn flaenorol gan y Rhwydwaith Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru (RhYPCC) ac mae bellach yn rhan o Ganolfan PRIME Cymru.