Nicola Innes

Professor Nicola Innes

Arweinydd Arbenigedd ar gyfer Iechyd y Geg a Deintyddol

Mae Nicola Innes yn Athro Deintyddiaeth Bediatrig , yn Ymgynghorydd Anrhydeddus ac yn Bennaeth Ysgol Deintyddiaeth Caerdydd. Cymhwysodd i ddechrau fel Nyrs Gyffredinol Gofrestredig, yna enillodd BSc mewn Gwyddorau Bywyd (1991) o Brifysgol Napier, Caeredin ac yna BMSc rhyng-gyrsiol mewn Patholeg Gellog/ Foleciwlaidd (1995) a BDS (anrh.) ym 1998 o Brifysgol Dundee. Mae hi wedi llwyddo mewn arholiadau i ymaelodi â Choleg Brenhinol Llawfeddygol Lloegr ar gyfer Cyfadran yr Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol (2004) a’r Gyfadran Llawfeddygaeth Ddeintyddol (2005) a derbyniwyd hi i Restr Arbenigwyr y Cyngor Deintyddol Cyffredinol ar gyfer Deintyddiaeth Bediatrig yn 2011.

Treuliodd yr Athro Innes saith mlynedd fel Deintydd Cyffredinol yn yr Alban a dyfarnwyd PhD iddi ar sail hap-dreial wedi’i reoli a oedd yn ymchwilio i Dechneg Hall tra’i bod yn gweithio rhan-amser yn ymarfer a rhan-amser ym Mhrifysgol Dundee (2011). Dechreuodd ei gyrfa academaidd fel Darlithydd Clinigol ym Mhrifysgol Dundee yn 2005 a daeth yn Bennaeth Ysgol Deintyddiaeth Caerdydd ym mis Awst, 2020.

Gyda dyhead i wella gofal cleifion a defnyddio adnoddau yn y ffordd fwyaf effeithiol a moesegol yn ysgogi ei diddordebau ymchwil, mae’r Athro Innes wedi canolbwyntio yn bennaf ar gydweithredu cenedlaethol a rhyngwladol mewn treialon clinigol ac astudiaethau yn deillio o’r rhain. Mae hi wedi arwain dau brosiect ymchwil i ddeintyddiaeth plant DU-eang, wedi’u hariannu gan NIHR, wedi cymryd rhan mewn treialon â’u sail yn yr Alban, Lithwania, Awstralia, Brasil, UDA a Seland Newydd, wedi cydysgrifennu adolygiadau Cochrane yn ymwneud â charioleg ac mae’n aelod o nifer o grwpiau datblygu canllawiau. 

Dyma’r meysydd penodol y mae’n canolbwyntio arnyn nhw:

·       treialon clinigol mewn carioleg, deintyddiaeth adferol, ataliol a phediatrig (datblygu sylfaen dystiolaeth wyddonol fodern ar gyfer atal a rheoli pydredd dannedd)

·       dirnadaethau cleifion (yn enwedig plant) ynglŷn â gofal deintyddol (gwneud deintyddiaeth yn fwy cyfeillgar i gleifion/ plant)

·       ymchwil drosiadol ac ymchwil addysgol gysylltiedig  (ymarferwyr yn gweithredu arfer seiliedig ar dystiolaeth ac yn hyrwyddo ymchwil i ddod yn arfer er budd y cyhoedd)


In the news: 

 

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)

Contact Nicola

Email