Dwy fenyw a dyn yn derbyn gwobr gan ddau berson arall

Lansio gwobrau newydd sbon Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

1 Gorffennaf

*Mae'r gwobrau hyn bellach ar gau*

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi lansio cyfres newydd sbon o wobrau i ddathlu cyflawniadau’r gymuned ymchwil yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf.

Mae dau gategori newydd wedi’u cyflwyno i’r gwobrau blynyddol eleni, ochr yn ochr â’n Gwobr Cynnwys y Cyhoedd lwyddiannus yr ydym wedi ei nodi dros y pedair blynedd diwethaf.

A allech chi fod yn enillydd Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn 2021?

  • Gwobr Effaith – a allwch chi ddangos sut y mae eich ymchwil iechyd neu ymchwil gofal cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth i fywyd pobl?
  • Gwobr Seren Ymchwil y Dyfodol – a ydych chi yng nghyfnod cynnar eich gyrfa ymchwil iechyd neu ymchwil gofal cymdeithasol? A ydych chi’n gwneud cyfraniadau sylweddol yn eich maes? A ydych chi’n datblygu ac yn amlygu eich hunan yn arweinydd y dyfodol?
  • Gwobr Cynnwys y Cyhoedd – a ydych chi wedi cynnwys aelodau o’r cyhoedd yn eich ymchwil iechyd neu ymchwil gofal cymdeithasol mewn ffordd ystyriol ac arloesol? A allwch chi fodloni gofynion Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd?

Bydd panel o feirniaid yn dewis yr enillydd ymhob categori a chyhoeddir yr enillwyr yng nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar 14 Hydref 2021.

Bydd enillydd pob categori yn cael bwrsariaeth werth £250 i fynd ar gwrs hyfforddi, i fynd i gynhadledd, gweithdy neu ddigwyddiad tebyg er mwyn datblygu un o feysydd ei set sgiliau ymchwil.

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

“Mae’r gymuned ymchwil yng Nghymru wedi cyflawni cymaint dros y 12 mis diwethaf mewn cyfnod heriol iawn, felly mae hwn yn gyfle gwych i gydnabod y rhai hynny a gymerodd ran ac i ddangos sut y mae eu gwaith yn gwneud gwahaniaeth y funud hon a sut y bydd yn dal i gael effaith yn y dyfodol.

“Thema cynhadledd eleni yw dysgu ac edrych ymlaen ac rwy’n gobeithio’n fawr y bydd y ceisiadau ar gyfer y gwobrau yn adlewyrchu hynny. Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad y llynedd, byddwn unwaith eto yn cynnal diwrnod cyfan gwbl ddigidol. Rwy’n edrych ymlaen at eich croesawu chi i gyd a bod yn rhan o’ch cyflawniadau.”

I geisio am y gwobrau

Darllenwch ddogfen ganllawiau Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2021 i gael manylion llawn ynghylch cymhwystra a meini prawf ar gyfer pob categori.

Dylech lenwi a chyflwyno y ffurflen gais berthnasol isod a darparu unrhyw gyfryngau ategol fel y nodir yn y ddogfen ganllawiau.

Ffurflen gais Gwobr Effaith

Ffurflen gais Gwobr Seren Ymchwil y Dyfodol

Ffurflen gais Gwobr Cynnwys y Cyhoedd

Dyddiad cau: 17:00 ar 22 Medi 2021

Anogir pob ymgeisydd y gwobrau i gofrestru a bod yn bresennol yng nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y gynhadledd.