Dr Laura Bunting

Dr Laura Bunting

Arweinydd Seilwaith Ymchwil

Laura yw Arweinydd Seilwaith Ymchwil a Meddyginiaeth Arbrofol Is-adran Ymchwil a Datblygu Llywodraeth Cymru. Mae’n goruchwylio’r broses o reoli seilwaith Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.  Mae’n cysylltu ag uwch academyddion ac arweinwyr ymchwil ar raddfa eang, gan reoli’r broses o gasglu mesurau perfformio ar draws y seilwaith ac yn rheoli’r broses gystadleuol i grwpiau sy’n gwneud cais am gyllid. Yn arweinydd ar feddyginiaeth arbrofol, mae Laura’n gyfrifol am gysylltu a chydweithio â chyllidwyr eraill yn y DU, gan gynrychioli Llywodraeth Cymru ar wahanol grwpiau’r DU a chyfrannu at ddatblygu strategaeth ar lefel y DU.

Cyn iddi ymuno â Llywodraeth Cymru yn 2019, bu’n gweithio mewn addysg uwch fel academydd ym maes seicoleg iechyd, cyn symud i’r maes rheoli ymchwil mewn niwrowyddorau ac iechyd meddwl.

Fel Arweinydd y Seilwaith Ymchwil, Laura sy’n goruchwylio’r broses o reoli seilwaith datblygu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.


Yn y newyddion:

Dull ‘Cymru’n Un’ o gynnal treialon ymchwil (Mehefin 2023)

Sefydliad

Is-adran Ymchwil a Datblygu, Llywodraeth Cymru

Cysylltwch â Laura

E-bost

Ffôn: 03000 252078