a_group_of_people_listen_to_a_woman_presenting

"Mae pethau mawr o'n blaenau": Dathlu cyflawniadau mewn ymchwil yn ein Diwrnod Cymorth a Chyflenwi 2025

10 Gorffennaf

Daeth staff ymchwil o bob cwr o Gymru at ei gilydd i ddathlu eu cyflawniadau, rhannu arferion gorau a chlywed am flaenoriaethau cenedlaethol yn Diwrnod Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2025.

Daeth mwy na 250 o gynrychiolwyr o bob cwr o Gymru at ei gilydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 8 Gorffennaf ar gyfer y digwyddiad ar y thema 'Sbarduno newid ar gyfer rhagoriaeth ymchwil'.

Dyma'r chweched Diwrnod Cymorth a Chyflenwi ac roedd y rhaglen amrywiol yn cynnwys prif sesiynau, sgyrsiau arddull TED a gweithdai o ymgorffori ymchwil yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru, gwella gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig i lesiant pobl ifanc ac iechyd meddwl.

Croesawodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chefnogi, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gynrychiolwyr i'r gynhadledd a dywedodd: "O wardiau ysbytai i feddygfeydd meddygon teulu, o hybiau prifysgolion i hybiau swyddfeydd cartref – chi yw'r rheswm pam mae ymchwil yn cyrraedd pobl yng Nghymru. 

"Chi yw'r rheswm y gallwn brofi triniaethau newydd, gwella gofal, a rhoi gobaith gwirioneddol i bobl am well dyfodol."

Myfyriodd Dr Williams hefyd ar enw da Cymru ym maes ymchwil gan ychwanegu: "Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni nid yn unig wedi cyflawni’n gyflym ac o dan bwysau – rydyn ni hefyd wedi arwain y ffordd.

"Yn y DU, mae Cymru yn cael ei chydnabod am y ffordd yr ydym wedi arloesi wrth gyflenwi," gan gyfeirio at ddatblygiad parhaus Cymru'n Un, integreiddio seilwaith ymchwil a chydlynu cyflawni ar draws ffiniau. 

Cafodd y brif araith ar 'Ymchwil mewn gofal iechyd: pam mae'n bwysig' ei rhoi gan Dr Christopher Scrase, Arweinydd Clinigol ar gyfer Ffrwd Waith Ymchwil ac Arloesi Gweithrediaeth GIG Cymru,

Fe wnaeth dynnu sylw at sut y cafodd ei ysbrydoli'n bersonol i ymgymryd ag ymchwil - gan newid llwybr ei yrfa yn y broses. 

Cyfeiriodd Dr Scrase at y datblygiadau ym maes radiotherapi dros y 130 mlynedd diwethaf fel enghraifft wych o sut y gall ymchwil newid a gwella bywydau pobl a dywedodd: "Mae'n benderfyniad amlwg bod rhaid i sefydliadau fod yn rhan o ymchwil ar bob lefel."

Trwy gydol y dydd, cafwyd cyflwyniadau gan gydweithwyr cymorth a chyflenwi ymchwil ar ragoriaeth ymchwil, arloesi ym maes cyflwyno ymchwil, sicrhau amser ar gyfer ymchwil ac ymchwil fasnachol - ynghyd â gweithdai a phosteri. 

Gwnaeth Jayne Goodwin, Pennaeth Cenedlaethol Cyflenwi Ymchwil yn Ymchwil Iechyd a Gofal, sôn am gyhoeddi'r cynllun gweithredu strategol i hybu ymchwil gan nyrsys, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yng Nghymru, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a’i lansio ym mis Mehefin.   

Gwnaeth Alex Newberry, Pennaeth Ymgysylltu, Llywodraethu a Gwybodeg Ymchwil Llywodraeth Cymru gyflwyniad ar y testun 'Defnyddio data iechyd cyfrinachol i wahodd pobl i gymryd rhan mewn ymchwil: Deialog gyhoeddus i lywio polisi'r DU'.

Wrth edrych i'r dyfodol, dywedodd Dr Williams fod "pethau mawr o'n blaenau" gan gynnwys buddsoddi mewn ymchwil fasnachol sydd â'r potensial i "roi Cymru ar y map" trwy ddenu noddwyr byd-eang, galluogi mynediad cynnar at driniaethau arloesol ac arwain at fanteision i gleifion ledled Cymru. 

Ychwanegodd Dr Nicola Williams: "Beth am ein helpu ni i lunio system gyflenwi sy'n adlewyrchu'r dyfodol yr ydym ni ei eisiau? Diolch am bopeth yr ydych chi wedi'i wneud a phopeth yr ydych chi ar fin ei wneud."

Gallwch weld cyflwyniadau y gwnaethoch eu colli trwy ddarllen y sleidiau ar dudalen y digwyddiad.

I gael y diweddaraf a newyddion o fyd ymchwil iechyd a gofal, tanysgrifiwch i dderbyn ein bwletin wythnosol.