Manju Krishnan

Manju Krishnan

Dirprwy Arweinydd Arbenigol ar Strôc

Penodwyd Dr Krishnan yn Feddyg Ymgynghorol ar Strôc ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn 2014. Yn 2016, daeth yn arweinydd clinigol ar wasanaethau Strôc Abertawe, gan wneud gwelliannau i’r llwybr i bobl sy’n cael pwl o isgemia dros dro, gan arwain at enwebiad yng nghategori gwobr arweinyddiaeth glinigol Cyfnodolyn Meddygol Prydain yn 2018.

Mae gan Dr Krishnan ddiddordeb mawr mewn gwaith ymchwil. Hi yw’r prif ymchwilydd ar gyfer nifer o astudiaethau cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae’n brif ymchwilydd ar gyfer prosiect ar ofal diwedd oes wedi strôc difrifol acíwt. Ymchwil i wrthgeulydd mewn achosion o strôc acíwt yw’r maes sydd o ddiddordeb pennaf iddi. Fe’i penodwyd yn Ddirprwy Arweinydd Arbenigol ar Strôc yn 2016, a chan gydweithio â’r Arweinydd, llwyddasant i wella cyfranogiad ymchwil ym mhob uned strôc yng Nghymru. Fe’i penodwyd i’r rôl am ail dymor yn 2019. Mae Dr Krishnan hefyd yn ysgrifennydd yng Nghymdeithas Meddygon Strôc Cymru.

Mae Dr Krishnan yn angerddol am wella gwasanaethau, a bu’n rhan o raglen AcademiWales i arweinwyr clinigol, a fu o gymorth iddi i ennill tystysgrif ôl-radd mewn arweinyddiaeth glinigol. Mae Dr Krishnan bellach yn gweithio fel Cyfarwyddwr Clinigol ar Feddygaeth yn Ysbyty Treforys, gan lynu at ei hymrwymiad i wella’r gofal o roddir i’w phoblogaeth leol.


Yn y newyddion:

Tîm ymchwil Abertawe'n chwarae rhan fawr mewn astudiaeth strôc ryngwladol sy'n torri tir newydd (Mehefin 2023)

Cysylltwch â Manju

E-bost

Twitter