Dr Claudia Metzler-Baddeley

Dr Claudia Metzler-Baddeley

Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Gwobr: Rhaglen Cymrodoriaeth y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd

 


Bywgraffiad

Mae Claudia Metzler-Baddeley yn Ddarllenydd mewn Ymchwil Niwrowyddoniaeth Wybyddol ac yn Gymrawd Ymchwil Uwch Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru/y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) yn yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd. Cyn ymuno â Chanolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC), hi oedd yr uwch niwroseicolegydd yn y Sefydliad Ymchwil ar gyfer Gofal Pobl Hŷn (RICE) yng Nghaerfaddon a bu'n ddarlithydd ac yn ymchwilydd ôl-ddoethurol ym mhrifysgolion Sussex, Manceinion, a Choleg y Brenin, Llundain.

Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar effaith heneiddio a niwroddirywio ar yr ymennydd a gwybyddiaeth. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn canfod sut y gellir manteisio ar niwroplastigedd a ysgogir gan hyfforddiant er budd pobl â chlefyd yr ymennydd. Mae hi wedi datblygu ap hyfforddi ysgogiad clywedol rhythmig (drymio) newydd ar gyfer pobl ag anhwylderau symud ac ar hyn o bryd mae'n arwain hapdreial rheoledig i ddichonoldeb yr ap mewn pobl â chlefyd Huntington.


Darllen mwy am Claudia a’u gwaith:

Ymchwilwyr o Gymru yn datblygu ap drymio rhyngweithiol i helpu pobl sy'n byw gyda chlefyd Huntington

Dyfarnu bron i £6.5 miliwn i ymchwil achub bywyd yng Nghymru


 

Sefydliad

Reader, Health Care Research Wales/ NIHR Advanced Research Fellow at Cardiff University

Cyswllt Claudia

Tel: 02920 870705

E-bost