Dr Charles Musselwhite

Yr Athro Charles Musselwhite

Athro Cyswllt mewn Gerontoleg a Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia

Mae Charles yn Athro Cyswllt mewn Gerontoleg yn y Ganolfan ar gyfer Heneiddio Arloesol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn gwella polisi ac ymarfer cyhoeddus mewn perthynas â’r amgylchedd adeiledig a thrafnidiaeth gan ystyried poblogaeth sy’n heneiddio, sydd angen cyd-destunau cynaliadwy ac amgylcheddol, yn cynnwys diogelwch defnyddwyr ffyrdd yn ddiweddarach mewn bywyd, rhoi’r gorau i yrru a chreu cymdogaethau a chymunedau sy’n ystyriol o oed. Mae wedi gweithio ar 36 o brosiectau fel Prif Ymchwilydd neu Gyd-ymchwilydd gwerth dros £14 miliwn o incwm ymchwil. Mae wedi ysgrifennu oddeutu 40 o erthyglau mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid, 20 o benodau llyfrau a phedwar llyfr ar y testunau hyn. Mae’n awyddus i ledaenu’i ymchwil yn y byd go-iawn ac i weithio’n agos â Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, elusennau a sefydliadau trydydd sector ac mae’n awyddus i ymgysylltu â’r cyhoedd. Mae wedi ymddangos ar deledu ar y BBC a gorsafoedd radio rhyngwladol ar amrywiaeth o destunau yn ymwneud â symudedd ac amgylchedd adeiledig ac mae’n ymddangos yn rheolaidd ar radio BBC Three Counties yn trafod materion pobl hŷn. Mae’n Brif Olygydd Cyfnodolyn Trafnidiaeth ac Iechyd Elsevier ac yn aelod o fwrdd golygyddol cyfnodolion ‘Ageing and Society’ a ‘Research in Transportation Business & Management’.


Yn y newyddion:

Making railways age friendly (Tachwedd 2022)

Llawlyfr newydd yn dangos Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd ar waith (Mehefin 2020)

Sefydliad

Y Ganolfan ar gyfer Heneiddio Arloesol, Prifysgol Aberystwyth

Cysylltwch â Charles

E-bost 

Twitter