
Bod yn Rhan o Ymchwil
Mae Bod yn Rhan o Ymchwil yma i’ch helpu i gael gwybod am ymchwil Iechyd a gofal cymdeithasol sy’n mynd rhagddi ledled y DU.
Gallwch chi gofrestru i ymchwilwyr gysylltu â chi ynglŷn ag ymchwil coronafeirws. Helpwch y GIG i ddod o hyd i frechlyn coronafeirws Cael gwybod mwy
Ynglŷn â brechlynnau
Yn y DU, mae brechlynnau’n achub miloedd o fywydau bob blwyddyn. Dyma’r ffordd fwyaf effeithiol i atal clefydau heintus. Mae gan frechlynnau’r potensial i’n helpu i guro’r coronafeirws (COVID-19).
Mae yna wahanol fathau o frechlynnau, a dydyn ni ddim yn gwybod pa un fydd yn gweithio orau i amddiffyn pobl rhag dal COVID-19. Mae’n eithaf posibl y bydd angen gwahanol frechlynnau ar gyfer gwahanol grwpiau o bobl, felly rydyn ni’n bwriadu rhedeg sawl astudiaeth yn edrych ar wahanol frechlynnau.
Sut y gallwch chi helpu
Ni allwn ni ymchwilio i frechlynnau COVID-19 oni bai bod pobl fel chi yn cymryd rhan.
Gallwch chi gofrestru i roi caniatâd i ymchwilwyr gysylltu â chi ynglŷn â chymryd rhan mewn astudiaethau brechlyn COVID-19. Trwy gasglu manylion am bobl sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn astudiaethau brechlyn, bydd yn gwasanaeth yn helpu i gwtogi ar yr amser y mae’n ei gymryd i ddod o hyd i wirfoddolwyr ar gyfer astudiaethau brechlyn. Bydd hyn yn ein helpu i gynnal astudiaethau a dod o hyd i frechlyn yn gyflymach.
Gallwch chi gofrestru os ydych chi’n 18 oed neu’n hŷn, ac yn byw yn y DU.
Dydych chi ddim yn cofrestru i gymryd rhan mewn astudiaeth iechyd benodol pan rydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth hwn. Rydych chi’n rhoi gwybod i ymchwilwyr eich bod chi’n hapus iddyn nhw gysylltu â chi os ydyn nhw'n meddwl y gallech chi fod yn addas i gymryd rhan yn eu hastudiaethau.
Cofrestru i ymchwilwyr gysylltu â chi ar gyfer astudiaethau brechlyn
Bod yn Rhan o Ymchwil
Gwasanaeth ar-lein ydy hwn, â’r nod o gysylltu aelodau’r cyhoedd, cleifion, clinigwyr, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, gan roi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i gymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal ledled y DU. Mae’r gwasanaeth yn rhoi cyfle i’ch helpu i ddeall beth ydy ymchwil a beth y gallai cymryd rhan ei olygu. Ewch i Bod yn Rhan o Ymchwil i gael gwybod am ymchwil Iechyd a gofal cymdeithasol sy’n mynd rhagddi ledled y DU.