Father working with daughter on education at home

Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru Symposiwm Rhoi Tystiolaeth COVID ar Waith

Thema - Effaith y pandemig COVID-19 ar addysg, plant a phobl ifan

Mae’n bleser gan Ganolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru gyhoeddi y cynhelir symposiwm cyntaf rhoi tystiolaeth Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru (WCEC) ar waith ar 7 Rhagfyr 2021.

Yn y digwyddiad hwn, fe fyddwch chi’n clywed am ddarganfyddiadau adolygiadau cyflym WCEC o dystiolaeth am effaith COVID-19 ar blant, pobl ifanc, addysg a sefydliadau addysg, ac yn ymuno â’r drafodaeth i nodi ffyrdd y gellir symud y rhain ymlaen i ddod yn rhan o bolisi ac arfer.

Ymhlith y siaradwyr fydd:

  • Yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru
  • Eluned Morgan AS: Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Helen Morgan, Uned Arbenigol ar gyfer Tystiolaeth Adolygu
  • Deborah Edwards, Canolfan Cymru ar gyfer Gofal Sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth
  • Liz Gillen, Canolfan Cymru ar gyfer Gofal Sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth
  • Chukwudi Okolie, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Judit Csontos, Canolfan Cymru ar gyfer Gofal Sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth
  • Huw Morris, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru

Darllen y rhaglen lawn

Y dyddiad cau i gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn yw 17:00 ar 30 Tachwedd 2021.

-

Ar-lein