'Mae ymddangosiad Omicron yn dangos pa mor hanfodol yw ymchwil barhaus’
21 Rhagfyr
Mae arweinwyr ymchwil yng Nghymru yn myfyrio ar ben-blwydd cyntaf cymeradwyo brechlyn Rhydychen / AstraZeneca.
Mae ymchwil yng Nghymru yn bwysicach nag erioed wrth i'r DU wynebu cynnydd mewn achosion COVID-19 a'r amrywiolyn Omicron newydd. Ers cymeradwyo brechlyn Prifysgol Rhydychen ac AstraZeneca flwyddyn yn ôl heddiw (30 Rhagfyr), mae Cymru wedi chwarae rhan hanfodol mewn sefydlu a darparu nifer o dreialon brechlyn a thriniaeth COVID-19.
Gan ddefnyddio’r profiad a’r modelau a sefydlwyd i ddarparu treial brechlyn Prifysgol Rhydychen ac AstraZeneca, cefnogodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru dreialon a lywiodd y rhaglen atgyfnerthu ragorol gyfredol; pedwar brechlyn newydd, gan gynnwys brechlyn ar sail planhigion; astudiaeth i weld a ellid rhoi COVID-19 a pigiadau ffliw ar yr un pryd; ac i lywio'r rhaglen ar gyfer plant 12-15 oed.
Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Mae'r garreg filltir hon yn ein hatgoffa o ble y gwnaethom gychwyn. Mae ymchwil bellach yn bwysicach nag erioed yn y frwydr yn erbyn yr amrywiolyn Omicron. Ynghyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a'r Ganolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym mor ddiolchgar am yr holl filoedd o wirfoddolwyr anhygoel a ddaeth ymlaen i gymryd rhan yn nhreial brechlyn Prifysgol Rhydychen ac AstraZeneca a'r nifer o dreialon COVID-19 eraill yng Nghymru eleni. Mae treialon atgyfnerthu ac amrywiolion newydd eraill yn parhau, a bydd Cymru ochr yn ochr â chenhedloedd eraill yn chwarae ein rhan yn yr astudiaethau hanfodol hyn i sicrhau y gallwn gynnig amddiffyniad parhaus i'n poblogaethau.
“Rwyf am ddiolch i bob aelod o staff sydd wedi cefnogi cyflenwi ymchwil yng Nghymru eleni - p'un a yw hynny'n ymchwil COVID-19 neu'n ymchwil hanfodol arall a gynhaliwyd."
Yn ogystal â threialon brechlyn, mae Cymru wedi bod yn greiddiol i astudiaethau ar driniaethau i leihau difrifoldeb y feirws, cyflymu adferiad ac osgoi mynd i'r ysbyty. Mae'r astudiaeth wrthfeirysol PANORAMIC a lansiwyd yn ddiweddar yn ymchwilio i weld a allai tabledi gwrthfeirysol a gymerir gartref yn fuan ar ôl i'r symptomau ddechrau, leihau derbyniadau i'r ysbyty.
Mae'r astudiaeth dan arweiniad Prifysgol Rhydychen ac wedi ei chyflenwi yng Nghymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Chanolfan Ymchwil Treialon Prifysgol Caerdydd.
Dywedodd Dr Andrew Carson-Stevens, Prif Ymchwilydd Cymru ar gyfer Astudiaeth PANORAMIC ac Arweinydd Arbenigedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer Gofal Sylfaenol: “Mae hwn yn ddatblygiad mor bwysig o ran sut rydym yn trin a rheoli COVID-19, yn enwedig i'r rhai mwyaf agored i niwed, ac rydw i mor falch y bydd Cymru yn chwarae rhan ganolog ynddo. Mae'n agored i'r rhai dros 50 oed, neu bobl 18-49 sydd â chyflwr iechyd sylfaenol gyda phrawf COVID-19 positif a symptomau ers llai na 5 diwrnod."
Hefyd, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf sefydlwyd Canolfan Dystiolaeth COVID-19 newydd Cymru. Mae'r Ganolfan yn sicrhau bod y dystiolaeth berthnasol orau gyfoes ar gael yn rhwydd i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac mae wedi cynhyrchu adroddiadau tystiolaeth ar COVID hir, gorchuddion wyneb, effeithiau'r pandemig ar blant a mwy.
Parhaodd Dr Williams: “Wrth i’r feirws barhau i fwtadu, a’r GIG yn wynebu pwysau yn erbyn yr amrywiolyn Omicron, mae’n amlwg bod angen i ni barhau â’n hymdrechion ymchwil i ddod o hyd i’r brechlyn a’r triniaethau gorau i helpu i guro’r feirws hwn.”