Dr Emma Yhnell – wedi’i geni i fod yn ymchwilydd
Allwch chi wrando ar Emma yn sgwrsio ag ymchwilwyr ysbrydoledig eraill ar ein podlediad Ble bydden ni heb ymchwil? pennod un yn dod yn fuan lle bynnag y byddwch fel arfer yn cael eich podlediadau. Tanysgrifiwch nawr.
Roedd Dr Emma Yhnell, sy’n 31 oed ac yn byw yng Nghaerdydd, yn cymryd rhan mewn ymchwil cyn y gallai gerdded. Mae wedi mynd ymlaen i arloesi yn ei hastudiaethau ei hun i glefydau’r ymennydd ac i ysbrydoli’r cyhoedd yng Nghymru i ddysgu mwy am ymchwil, gan ddefnyddio’i pheiriant swigod a’i chell ymennydd anwesol.
Mae antur nesaf Emma yn digwydd ar-lein fel cyflwynydd ein podlediad Where Would We Be Without Research?
Wedi’i geni i ymchwilio
“Doedd fy rhieni ddim yn gallu beichiogi’n naturiol, felly gwnaethon nhw droi at IVF. Ar ôl llawer o ymdrechion a fethodd, cafodd fy rhieni dripledi (fi a fy chwiorydd) a anwyd bron 10 mlynedd yn ddiweddarach.
“Cefais i a fy chwiorydd ein geni yn gynnar iawn, a rhybuddiwyd fy rhieni ei bod yn bosibl na fydden ni’n byw. Daeth ymchwil i’r adwy eto pan ofynnwyd i fy nhad a fyddai’n ystyried cofrestru ei dripledi ar astudiaeth a oedd yn edrych ar gyffur a oedd yn helpu i ddatblygu ysgyfaint babanod cynamserol. Cymerodd y dair ohonon ni ran, a thyfu i fyny yn iach; roedden ni’n lwcus iawn.
“Does gen i ddim amheuaeth o gwbl mai ymchwil ydy’r rheswm pam i mi gael fy ngeni a’r rheswm pam fy mod i’n fyw heddiw."
Wedi’i hysbrydoli gan ei theulu
“Pan roeddwn i’n blentyn, mi fuaswn i’n aml yn teithio o Gaerloyw i Gasnewydd i ymweld â fy nhaid a’m nain. Byddai fy Nana bob amser yn fy nghroesawu â chwtsh cynnes a byddai’n dweud ‘o Emma, yn dwyt ti wedi tyfu!’.
“Mi fuasai’n dweud yr un peth eto, ddwy awr yn hwyrach ac, i ddechrau, roeddwn i’n meddwl bod hyn yn ddoniol, ond pan drodd hyn yn ‘sori, pwy wyt ti?’ mi ddechreuais i boeni. Dyna pryd ddywedodd fy mam wrtha’ i fod ymennydd Nana wedi torri. Dwi’n gwybod erbyn hyn mai dweud oedd hi ei bod hi’n byw â chlefyd Alzheimer.
“Dwi’n cofio, fel plentyn bach, bod hyn wedi codi braw mawr arna’ i, a doeddwn i ddim yn deall pam na allen ni, yn syml, drwsio ei hymennydd. Dyma lle y daeth fy nyhead i ddysgu mwy am glefydau’r ymennydd ohono. Fy Nana ydy fy ysbrydoliaeth.”
Dod o hyd i’w throedle
“Am fwy na degawd nawr, rydw i wedi bod yn frwd dros ymchwil i glefyd Huntington, sef anhwylder prin yr ymennydd sy’n achosi i’r celloedd fethu yn yr ymennydd.
“Beth sydd o wir ddiddordeb i mi ydy sut rydyn ni’n trin anhwylderau’r ymennydd yn wahanol i unrhyw glefyd arall, a faint o effaith y maen nhw’n ei chael nid yn unig ar y person â’r salwch, ond ar y teulu hefyd.
“Yn ystod fy Nghymrodoriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, roeddwn i’n gweithio yn y clinig cleifion clefyd Huntington. Mi sylweddolais fod y wybodaeth a oedd ar gael i bobl ddim bob amser wedi’i hysgrifennu mewn ffyrdd y byddai pobl yn gallu ei deall yn hawdd a sbardunodd hyn fi i wneud mwy o waith yn rhoi’r gair ar led ynglŷn ag ymchwil.”
“Byth ers hynny, dwi wedi bod yn mynd i ysgolion ac i wyliau, i siarad am yr ymennydd a gwyddoniaeth. I mi, mae’n hynod bwysig nad ydyn ni’n gadael ymchwil yn y labordy; y gwaith mwyaf cyffrous dwi’n ei wneud ydy newid meddyliau pobl sy’n meddwl dydy ymchwil ddim yn berthnasol iddyn nhw.
“Mae’n sicr na fuaswn i yma heb ymchwil; dydw i ddim yn meddwl y buasai dim ohonon ni, neu o leiaf ddim am hir iawn. Mae ymchwil yn berthnasol i fywydau pob un ohonon ni, mewn cymaint o wahanol ffyrdd.”
Gallwch chi glywed oddi wrth Dot Davies, cyflwynydd ein podlediad Ble fydden ni heb ymchwil? ar ein tudalen blog.