
Dr Kieran Foley
Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Dyfarniad Amser Ymchwil y GIG (2019 - 2023)
Teitl y prosiect: To develop Stereotactic Ablative Body Radiotherapy (SABR) in Wales
Bywgraffiad
Mae Dr Kieran Foley yn Radiolegydd Ymgynghorol sydd â diddordebau mewn delweddu gastroberfeddol, oncoleg ac ymchwil. Mae'n gweithio rhwng Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Canolfan Ganser Felindre ac Academi Ddelweddu Genedlaethol Cymru, ac mae hefyd yn Uwch Ddarlithydd Clinigol yn Adran Canser a Geneteg Prifysgol Caerdydd.
Cwblhaodd PhD yn ystod Cymrodoriaeth Hyfforddiant Academaidd Clinigol Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd ei draethawd ymchwil yn canolbwyntio ar newidynnau prognostig sy'n deillio o ymchwiliadau llwyfannu mewn canser oesoffagws.
Ers hynny, mae Dr Foley wedi derbyn sawl grant ymchwil gan gynnwys Gwobr Amser Ymchwil gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac mae'n gyd-Brif Ymchwilydd astudiaeth arsylwadol aml-ganolfan a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd sy'n ymchwilio i'r defnydd o uwchsain endosgopig mewn canser yr oesoffagws.
Mae hefyd wedi derbyn cyllid grant pellach oddi wrth Goleg Brenhinol Radiolegwyr ac Ymchwil Canser Cymru, gyda'r olaf yn ariannu astudiaeth ddichonoldeb sy'n defnyddio'r sganiwr MRI Siemens Connectom o'r radd flaenaf yng Nghanolfan Delweddu Ymchwil yr Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) i sganio dynion sydd â chanser y brostad, sef y tro cyntaf yn y byd i'r peiriant MRI hwn gael ei ddefnyddio at y diben hwn.
Mae ei rolau ymchwil eraill yn cynnwys cyn-Swyddog Ymchwil ar gyfer Cymdeithas Radioleg Gastroberfeddol ac Abdomenol Prydain (BSGAR), aelod o Gyfadran Cymdeithas Ewropeaidd Radioleg Gastroberfeddol ac Abdomenol (ESGAR), radiolegydd arweiniol ar dreialon clinigol canser oesoffagws cenedlaethol, ac mae'n aelod o grŵp rheoli treialon ar gyfer sawl astudiaeth arall.
Darllen mwy am Kieran a’u gwaith:
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi enwau enillwyr dros £5 miliwn o wobrau ariannol am 2019-20