Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Coluddyn 2023
Mae Bowel Cancer UK yn amcangyfrif bod tua 42,000 o achosion newydd o ganser y coluddyn yn cael eu diagnosio yn y DU bob blwyddyn, gan ddangos mai canser y coluddyn yw'r ail laddwr canser mwyaf yn y DU. Mae ymchwilwyr yng Nghymru, ynghyd â’r cyhoedd, yn gweithio’n ddiflino i ymchwilio i ffyrdd newydd o wneud diagnosis, trin a gofalu am gleifion sy’n cael diagnosis o ganser y coluddyn.
Mae Ebrill yn Fis Ymwybyddiaeth o Ganser y Coluddyn, sy'n cynnig cyfle i ni dynnu sylw at rywfaint o'r ymchwil anhygoel sy'n digwydd yng Nghymru.
Ffactorau genetig sy'n gysylltiedig â thiwmorau'r coluddyn
Mae ymchwilwyr ym Mharc Geneteg Cymru yn ymchwilio i ffyrdd genetig newydd y gall tyfiannau bach, a elwir yn bolypau, a thiwmorau ddatblygu yn y coluddyn mewn rhai syndromau canser etifeddol. Mae eu gwaith yn amlygu defnyddioldeb posibl ehangu sgrinio diagnostig.
Canfod diagnosis canser y colon a’r rhefr yn gynnar
Mae canser y colon a'r rhefr yn parhau i gael ei ddiagnosio yn y cyfnodau hwyr. Un ffordd o leihau’r amser i ddiagnosis fyddai prawf diagnostig yn seiliedig ar ofal sylfaenol. Archwiliodd astudiaeth a arweiniwyd gan yr Athro Dean Harris ac a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru drwy Wobr Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd Cymru, ymarferoldeb profion gwaed ac ysgarthion newydd i wneud diagnosis o ganser y colon a’r rhefr. Mae'r profion newydd hyn yn cynnig diagnosis cyflymach i gleifion sydd mewn perygl o gael canser y colon a'r rhefr, tra bod cleifion heb brawf positif yn osgoi'r angen am weithdrefnau diagnostig mewnwthiol fel colonosgopi.
Gall cyflyrau iechyd presennol eraill cleifion effeithio ar ganlyniadau sgrinio’r colon a’r rhefr. Nod prosiect a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gan Dr Stephanie Smits yw darparu dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n effeithio ar gwblhau sgrinio canser y colon a’r rhefr a’i nod yw datblygu strategaethau sgrinio gwell sy’n ystyried mwy nag un cyflwr hirdymor.
Strategaeth Canser Cymru (CReST)
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Rhwydwaith Canser Cymru a Chanolfan Ymchwil Canser Cymru wedi datblygu’r Strategaeth Canser Cymru (CReSt) gydgysylltiedig gyntaf erioed sy’n dod â’r gymuned ymchwil gyfan ynghyd yn y frwydr yn erbyn canser, gan gynnwys canser y coluddyn.
Cafodd Julie Hepburn, 68, o Gasnewydd ddiagnosis o ganser y colon a’r rhefr cam 3b yn 2014. Ar ôl llawdriniaeth frys a chemotherapi, cafodd ysgafnhad o’r clefyd, ac mae wedi bod yn helpu i siapio CReSt o’r cychwyn cyntaf. Dywedodd Julie:
Roedd cael diagnosis o ganser yn sioc enfawr – doeddwn i ddim yn disgwyl y fath beth. Ar ôl mynd drwy’r broses driniaeth flinedig a gweld pa mor galed mae meddygon a chlinigwyr yn gweithio i gadw cleifion yn fyw, roeddwn i eisiau helpu i wneud pethau’n well i gleifion canser y dyfodol."
Dyna sut y gwnes i gymryd fy nghamau cyntaf i gynnwys y cyhoedd mewn ymchwil canser. Fel lleygwyr, rydym yn gwneud gwaith gwerthfawr iawn drwy gynnig safbwynt gwahanol i ymchwilwyr a siarad ar ran cleifion."
Roeddwn wrth fy modd bod yn rhan o ddatblygiad CReSt. Mae’n ddarn mor bwysig o waith ac rwy’n teimlo’n wirioneddol fel pe bai rhywun yn gwrando ar fy mewnbwn. Rydyn ni i gyd eisiau gwneud ymchwil canser yn gynaliadwy yng Nghymru ac mae’n rhaid i ni gael cynllun. Mae CReSt yn ffordd ymlaen, rhywbeth y gallwn ni i gyd weithio tuag ato, ac rwy’n credu y bydd o fudd mawr i bobl Cymru.”
Ni fyddai'r ymchwil hwn yn bosibl heb eich cyfraniad chi. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymchwil canser yng Nghymru, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin i gael y newyddion ymchwil diweddaraf a chyfleoedd i helpu gydag ymchwil a chymryd rhan ynddo.