Tîm ymchwil Abertawe'n chwarae rhan fawr mewn astudiaeth strôc ryngwladol sy'n torri tir newydd
21 Mehefin
Mae tîm ymchwil yn Ysbyty Treforys yn Abertawe, dan arweiniad dirprwy arweinydd arbenigeddau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer strôc, wedi helpu i lywio astudiaeth ryngwladol sylweddol i bryd i roi meddyginiaeth hanfodol i deneuo’r gwaed i gleifion strôc.
Daeth astudiaeth ELAN i'r casgliad bod rhoi gwrthgeulyddion i gleifion yn fuan ar ôl strôc oherwydd ffibriliad atrïaidd yn ddiogel ac yn effeithiol, ni waeth a oedd y strôc yn ysgafn, yn gymedrol neu'n ddifrifol.
Bydd hyn yn llywio canllawiau i gleifion strôc, gan helpu i leihau’r risg o strôc pellach ac yn y pen draw achub bywydau.
Arweiniodd Dr Manju Krishnan, Meddyg Ymgynghorol Strôc ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, y tîm yn Ysbyty Treforys. Roedd hon, a chanolfan Gymreig arall, Ysbyty Glan Clwyd yn y Rhyl, yn y pump uchaf o blith 103 o ganolfannau recriwtio ar draws Ewrop, y Dwyrain Canol ac Asia.
Mae cleifion â ffibriliad atrïaidd (curiad calon afreolaidd) bum gwaith yn fwy tebygol o gael strôc. Mae ganddyn nhw hefyd risg uwch o gael strôc arall yn fuan wedyn. Fel arfer rhoddir meddyginiaeth gwrthgeulo i gleifion i leihau'r risg hon, ond mae'r canllawiau wedi amrywio ar yr amser gorau i'w roi iddynt.
Roedd astudiaeth ELAN yn rhannu’r cleifion ar hap i ddau grŵp: un yn cael gwrthgeulyddion yn gynharach yn dilyn strôc ac un yn cael ei roi iddynt yn ddiweddarach.
Dywedodd Dr Krishnan, “Rydym yn ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn y treial ELAN ac yn gobeithio y byddant yn falch o’r effaith y mae eu cyfranogiad wedi’i chael yn hanes meddygaeth strôc. Roeddem hefyd yn falch bod dwy o'r canolfannau Cymreig ymhlith y pum sefydliad recriwtio mwyaf yn rhyngwladol ar gyfer y treial hwn a bod Abertawe wedi recriwtio'r 500fed cyfranogwr.
“Roedd llawer o gleifion y siaradom â nhw yn hapus iawn i gael y cyfle i gymryd rhan mewn ymchwil, a allai wella canlyniadau i gleifion eraill yn y dyfodol.”
Mae Dr Krishnan yn gobeithio y bydd yr astudiaeth yn hybu enw da rhyngwladol Cymru am ymchwil iechyd.
Mae gweld Cymru yn cymryd rhan mor flaenllaw mewn astudiaeth ryngwladol fawr yn rhoi goleuni gwyrdd, gobeithio, i gymryd rhan mewn astudiaethau eraill o'r fath. Byddwn wrth fy modd yn gweld treialon o’r fath yn cael eu cychwyn o Gymru yn y dyfodol.”