Rheoli ffeil safle electronig
Hyd y Cwrs: 45-60 munud
Amlinelliad o’r Cwrs:
Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i ddefnyddio a rheoli ffeil safle ymchwilydd electronig. Mae’n ategu’r cwrs “Rheoli Dogfennau Hanfodol mewn Ymchwil” ac mae ar gyfer gweithwyr ymchwil proffesiynol a staff sy’n rheoli dogfennau hanfodol ar fformat electronig.
Manylion y cwrs:
Bydd y cwrs yn disgrifio’r prosesau:
- Sefydlu a rheoli ffeil safle electronig.
- Trefnu mynediad at ddogfennau electronig ar gyfer personél sicrwydd ansawdd.
- Archifo dogfennau electronig.
Ar ôl yr hyfforddiant, bydd y cyfranogwyr:
- Yn deall egwyddorion allweddol rheoli ffeil safle electronig.
- Yn ymwybodol o brosesau sicrhau ansawdd ar gyfer cadw dogfennau mewn ffeil safle electronig.
- Yn nodi gofynion mynediad i ffeil safle electronig ar gyfer personél sicrwydd ansawdd.
- Yn ymwybodol o’r gofynion archifo ar gyfer ffeil safle electronig
Ardystiad CPD:
Mae’r hyfforddiant yma wedi ei ardystio gan y Gwasanaeth Ardystio CPD
Os byddwch yn cael unrhyw anawsterau yn ystod yr hyfforddiant, cysylltwch â'r tîm hyfforddi