Rheoli ffeil safle electronig

Hyd y Cwrs: 45-60 munud

Amlinelliad o’r Cwrs: 

Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i ddefnyddio a rheoli ffeil safle ymchwilydd electronig. Mae’n ategu’r cwrs “Rheoli Dogfennau Hanfodol mewn Ymchwil” ac mae ar gyfer gweithwyr ymchwil proffesiynol a staff sy’n rheoli dogfennau hanfodol ar fformat electronig.

Manylion y cwrs: 

Bydd y cwrs yn disgrifio’r prosesau:

  • Sefydlu a rheoli ffeil safle electronig.
  • Trefnu mynediad at ddogfennau electronig ar gyfer personél sicrwydd ansawdd.
  • Archifo dogfennau electronig.

Ar ôl yr hyfforddiant, bydd y cyfranogwyr:  

  • Yn deall egwyddorion allweddol rheoli ffeil safle electronig.
  • Yn ymwybodol o brosesau sicrhau ansawdd ar gyfer cadw dogfennau mewn ffeil safle electronig.
  • Yn nodi gofynion mynediad i ffeil safle electronig ar gyfer personél sicrwydd ansawdd.
  • Yn ymwybodol o’r gofynion archifo ar gyfer ffeil safle electronig

Ardystiad CPD: 

Mae’r hyfforddiant yma wedi ei ardystio gan y Gwasanaeth Ardystio CPD

Dechrau hyfforddiant

Os byddwch yn cael unrhyw anawsterau yn ystod yr hyfforddiant, cysylltwch â'r tîm hyfforddi

E-bost