alt

Ymchwilwyr

P’un ag ydych yn newydd i ymchwil neu’n rhan o’n cymuned ymchwil sefydledig, gall Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gynnig ystod eang o gymorth, arweiniad a hyfforddiant.

Yma, gallwch chi gael gwybod hefyd am y galwadau ariannu diweddaraf yn ogystal â’n cynlluniau ariannu, gan weithio gyda phartneriaid ariannu sydd â’r nod o roi cyfleoedd o ansawdd uchel i chi a’ch timau ymchwil.

Rydym yn falch o arddangos yr ymchwil sy’n digwydd yng Nghymru ochr yn ochr â’r cyfeiriadur prosiectau yr ydym yn eu hariannu, sy’n dangos ein hanes o ariannu ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl yng Nghymru a thu hwnt.