people in groups talking

Pontio'r bwlch rhwng ymchwilwyr a'r cyhoedd: Sut gallwn ni eich cefnogi.

Mae gan ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ran hanfodol wrth lunio polisïau, gwasanaethau, triniaethau a gofal sy'n effeithio ar bob un ohonom. Er mwyn i ymchwil fod yn wirioneddol effeithiol ac ystyrlon, rhaid iddi adlewyrchu lleisiau a phrofiadau'r cyhoedd. Mae pontio'r bwlch rhwng ymchwilwyr a'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu yn hanfodol, mae'n meithrin ymddiriedaeth, yn gwella perthnasedd, ac yn sicrhau effaith yn y byd go iawn. 

Helo, Emma Langley ydw i, Swyddog Ymgysylltu a Chynnwys y Cyhoedd yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a rhan o fy rôl i yw siarad ag ymchwilwyr a fyddai’n hoffi cynnwys aelodau o'r cyhoedd yn eu hymchwil. Rydym yn cefnogi ymchwilwyr i gysylltu ag aelodau’r cyhoedd drwy ddatblygu cyfleoedd ymchwil, ac rydym wedi datblygu mwy na 83 dros y flwyddyn ddiwethaf, o helpu i gyflymu sgrinio llygaid yng Nghymru i drosglwyddo menywod sy’n esgor babi. 

Ar ôl recriwtio aelodau o'r cyhoedd i'n cyfleoedd ymchwil, rydym yn gofyn i ymchwilwyr a'r aelodau o’r cyhoedd hynny i roi adborth yn rheolaidd, ar ôl pythefnos i wneud yn siŵr bod cyswllt wedi'i wneud rhyngddynt, dau fis, chwe mis a blwyddyn. Mae hyn yn caniatáu i'r tîm wneud yn siŵr bod ein gwasanaeth a'n cefnogaeth wedi diwallu anghenion y bobl hynny sy’n ei ddefnyddio a sut mae cynnwys y cyhoedd wedi newid y prosiect. Trwy adborth a gasglwyd o'r cyfleoedd hyn, rydym wedi gallu casglu gwybodaeth i fireinio ein gwasanaeth ac egluro sut rydym yn cefnogi ymchwilwyr, a sut rydym yn cyfathrebu'r gefnogaeth honno. 

Sut allwn ni eich cefnogi? 

Rydym yn cydweithio â phrifysgolion Cymru, byrddau ac ymddiriedolaethau'r GIG, cynghorau lleol, a darparwyr gofal i arwain, cynnal a chefnogi ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ac rydym yma i'ch helpu i gysylltu ag aelodau o'r cyhoedd a all helpu i lunio eich ymchwil. 

Y camau perthnasol i ni ddatblygu hysbyseb ymchwil yw: 

  • Byddwch chi’n llenwi ac yn cyflwyno ein ffurflen ar-lein i wneud cais i gynnwys y cyhoedd. Mae canllawiau gwybodaeth wedi'u cynnwys i'ch helpu i strwythuro'ch cais.  
  • Bydd ein tîm yn ei hadolygu. Yna, byddwn yn creu cyfle yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd gennych neu'n eich ffonio i drafod eich anghenion.   
  • Nesaf, byddwn yn paratoi cyfle drafft gan ddefnyddio'r wybodaeth hon. Byddwn yn gwirio ac yn cytuno ar y cynnwys gyda chi cyn ei rannu'n gyhoeddus.   
  • Bydd yr hysbyseb wedyn yn cael ei rhannu gyda'n cymuned a'n rhwydweithiau ehangach trwy ein bwletin cyhoeddus, ar y wefan, y cyfryngau cymdeithasol ac wedi'i dargedu at wahanol gymunedau.   
  • Ar ôl y dyddiad cau, rydym yn casglu'r holl ymatebion yn mynegi diddordeb ac yn eu hanfon atoch, byddwn yn dileu unrhyw wybodaeth adnabyddadwy, a byddwch yn derbyn y ffurflenni mynegi diddordeb. Yna byddwch yn eu hadolygu ac yn dewis y bobl sy'n cyd-fynd â meini prawf a phrofiad y prosiect orau.   
  • Yna byddwn yn anfon manylion cyswllt yr unigolion a ddewiswyd atoch er mwyn i chi allu estyn allan, cyflwyno eich hun, esbonio'r prosiect, a chynllunio'r camau nesaf gyda nhw.   
  • Os ydych chi'n aelod o'n cymuned a ariennir neu'n gwneud cais am grant ymchwil iechyd a gofal Cymru, gallwn dalu eu costau ar gyfer amser, teithio a threuliau eraill sy'n gysylltiedig â mynychu cyfarfodydd. Fel hyn, ni fyddant ar eu colled. Nid oes angen ad-dalu'r costau hyn os yw'ch prosiect yn cael ei ariannu.   
  • Byddwn yn ymdrin â'r holl daliadau cyn i unrhyw gyllid gael ei dderbyn. Rhowch wybod ddyddiadau'r cyfarfod a’r amseroedd i ni, ac os oes angen darllen deunyddiau'r prosiect ymlaen llaw. Bydd angen gwybodaeth ar ôl y cyfarfod arnom i roi gwybod i ni pwy oedd yn rhan o'r digwyddiad a beth oedd eu hymrwymiad. 

Angen cymorth i gynnwys y cyhoedd yn eich ymchwil? 

Rydyn ni yma i'ch cefnogi ar unrhyw gam o'ch prosiect ymchwil, p'un a ydych chi newydd ddechrau, yn paratoi cais am gyllid, neu’n cynllunio sut i rannu eich canlyniadau. Os hoffech drafod sut i gynnwys aelodau o'r cyhoedd yn eich astudiaeth, anfonwch e-bost atom ac fe wnawn ni drefnu galwad gyflym.