Dr Rhys Bevan-Jones
Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Cynllun Ymchwilydd sy’n Datblygu (2024 - 2026)
Diddordeb Ymchwil: Mae’r cyfryngau gweledol a digidol ym maes iechyd meddwl yn llywio gweithgareddau ymchwil, addysgu ac ymgysylltu â’r cyhoedd.
Bywgraffiad
Mae Dr Rhys Bevan Jones yn Uwch Gymrawd Ymchwil Glinigol yn Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol, Prifysgol Caerdydd, ac yn Seiciatrydd Ymgynghorol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae wedi'i hyfforddi'n ddeuol mewn seiciatreg plant, y glasoed ac oedolion. Yn ogystal â'i hyfforddiant meddygol, mae ganddo radd mewn darlunio ac animeiddio, ac mae ganddo ddiddordeb yn rôl y cyfryngau gweledol a digidol ym maes iechyd meddwl.
Mae Rhys wedi ennill dwy gymrodoriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru/National Institute for Health and Care Research (NIHR)
i) Cymrodoriaeth Ddoethurol i gyd-ddatblygu a gwerthuso,
ii) Cymrodoriaeth Ôl-ddoethurol i fireinio a chynnal treial dichonoldeb o 'MoodHwb', rhaglen ddigidol ddwyieithog ar gyfer iselder/gorbryder ymhlith pobl ifanc.
Yn ddiweddar, dechreuodd Ddyfarniad Hyrwyddo Ymchwilydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i archwilio iechyd meddwl digidol ac ieuenctid, ac anawsterau iechyd meddwl wrth bontio o fywyd plentyn i fywyd oedolyn.
Darllen mwy am Rhys a’u gwaith:
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi’r rownd ddiweddaraf o ddyfarniadau personol
Mae ymchwil yng Nghymru’n gwneud gwahaniaeth i iechyd meddwl plant a phobl ifanc Cymru