Cynllun Ymchwilydd sy’n Datblygu

Diben

Hwyluso cynnydd pellach ymchwilwyr canol gyrfa wrth iddynt drosglwyddo i gam nesaf eu gyrfa ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.

Ar gyfer pwy

Mae’r Cynllun Ymchwilydd sy’n Datblygu yn agored i ymchwilwyr canol gyrfa a gyflogir gan Sefydliadau Addysg Uwch (SAU) neu staff ymchwil a gyflogir gan y GIG neu sefydliadau Gofal Cymdeithasol. Bydd angen i ymgeiswyr SAU gyfiawnhau’n glir yr angen am gostau cyflog o ystyried eu contract cyflogaeth parhaol yn y sector. 

Cyllid ar gael

Costau cyflog am hyd at 0.4 diwrnod Cyfwerth ag Amser Cyflawn (WTE) yr wythnos am ddwy flynedd ynghyd â nwyddau traul ymchwil rhesymol (uchafswm o £5,000)

Pryd 

Mae hwn yn gynllun blynyddol gyda galwadau'n agor ym mis Medi bob blwyddyn. Mae'r alwad nesaf wedi'i threfnu ar gyfer Medi 2024

Cymorthfeydd Cynllun Ymchwilydd sy’n Datblygu

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y Cynllun Ymchwilydd sy’n Datblygu, gofynnwch i’r tîm yn un o’r cymorthfeydd:

  • Dydd Mawrth, 10 Medi 10:00 – 11:00
  • Dydd Llun, 23 Medi 14:30 – 15:30

I archebu lle mewn cymhorthfa, e-bostiwch y tîm


 

Mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, o 17 Hydref 2024, yn trosglwyddo i ddefnyddio System Rheoli Dyfarniadau newydd a'r ymgeiswyr ar gyfer y Cymrodoriaethau Uwch a Doethurol nesaf fydd y grŵp cyntaf i ddefnyddio'r system newydd hon.

O fis Hydref 2024 ymlaen, bydd y Gyfadran yn gweinyddu'r holl alwadau newydd gan ddefnyddio'r System Rheoli Dyfarniadau a bydd yn dechrau symud rheolaeth holl ddyfarniadau personol presennol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i'r system hon o fis Ionawr 2025.

Rydym yn rhagweld y bydd y System Rheoli Dyfarniadau newydd yn hwyluso prosesau mwy effeithlon ar gyfer y Gyfadran a fydd o fudd i'n hymgeiswyr a'n haelodau ac yn ein helpu i wella'r gefnogaeth i ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y system newydd, cysylltwch â thîm y Gyfadran a fydd yn hapus iawn i helpu.

 

 

Ar gau

Gwybodaeth bellach 

E-bost: Research-Faculty@wales.nhs.uk  

Cymorthfeydd Cynllun Ymchwilydd sy’n Datblygu

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y Cynllun Ymchwilydd sy’n Datblygu, gofynnwch i’r tîm yn un o’r cymorthfeydd:

  • Dydd Mawrth, 10 Medi 10:00 – 11:00
  • Dydd Llun, 23 Medi 14:30 – 15:30

I archebu lle mewn cymhorthfa, e-bostiwch y tîm