Pedwar aelod o'r gyfadran yn trafod gweithgareddau arweinyddiaeth

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi’r rownd ddiweddaraf o ddyfarniadau personol

3 Ebrill

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch o gyhoeddi’r rhai sydd wedi ennill ein dyfarniadau personol diweddaraf gan gefnogi unigolion i ddatblygu eu gyrfaoedd fel ymchwilwyr a gwella capasiti ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.

Bydd cyfanswm o naw unigolyn yn cael dyfarniad personol gan Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru o dan y cynllun Dyfarniadau Datblygu Ymchwil hyd at gyfanswm o dros £562,000.

Dywedodd yr Athro Monica Busse, Cyfarwyddwr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Ar ran y Gyfadran, rwy’n llongyfarch pawb sydd wedi cael dyfarniad ac yn gobeithio y byddan nhw’n cymryd camau breision ar eu taith ymchwil i ddod yn arweinwyr ymchwil yng Nghymru yn y dyfodol.

"Mae’r Gyfadran wedi ymrwymo i roi cefnogaeth ac arweiniad cyfannol i ymchwilwyr o bob cefndir i’w helpu nhw i wneud cynnydd ar hyd eu llwybr gyrfa ymchwil yn ogystal â sicrhau bod ein cymuned ymchwil yn cynnal ei hysbryd cystadleuol."

Mae rhestr lawn o’r dyfarniadau a’r rhai sydd wedi ennill cyllid isod:

Dyfarniadau Datblygu Ymchwilwyr

Dyfarniad Ymchwilwyr sy’n Datblygu

Dr Heather Strange - Canolfan Ymchwil Treialon
Ymchwil iechyd menywod.
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2024 (£63,243)

Dr Verity Bennett - Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE), Prifysgol Caerdydd      
Ymchwil yn canolbwyntio ar ddiogelu plant rhag niwed a deallusrwydd artiffisial mewn ymchwiliadau i anafiadau plant.
Dyddiad dechrau: 1 Ebrill 2024 (£54,968)

Dr Rhys Bevan-Jones - Prifysgol Caerdydd
Mae’r cyfryngau gweledol a digidol ym maes iechyd meddwl yn llywio gweithgareddau ymchwil, addysgu ac ymgysylltu â’r cyhoedd.
Dyddiad dechrau: 1 Ebrill 2024 (£135,507)

Dyfarniad Ymchwilwyr sy’n Dod i’r Amlwg

Ms Shelly Higgins - Canolfan Geni Aberhonddu, Ysbyty Coffa Rhyfel Aberhonddu, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Gofal dan arweiniad bydwragedd, man geni, trosglwyddiadau cyn ac ar adeg yr enedigaeth, gofal yn ystod genedigaeth y tu allan i ganllawiau wedi’u hargymell, cefnogi bydwragedd a’u parhad mewn meysydd gofal y tu allan i’r uned obstetreg gan gynnwys addysg a hyfforddiant.
Dyddiad dechrau: 1 Ebrill 2024 (£79,084)

Dr Ismay Fabre - Adran Fasgiwlaidd, Ysbyty Athrofaol Cymru, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Clefyd fasgwlaidd ymylol a llawfeddygaeth torri ymaith rhan o’r corff.
Dyddiad dechrau: 1 Ebrill 2024 (£19,115)

Dr Francis William Barwise Sanders - Ysbyty Athrofaol Cymru, Cyflogwr Arweiniol Sengl GIG Cymru
Ymchwil drosi - retinopathi diabetig
Dyddiad dechrau: 1 Ebrill 2024 (£67,632)

Dr Savita Shanbhag - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Datblygu prosiectau ymchwil effeithiol ym maes gofal sylfaenol, sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy arwain at ddiagnosis cynnar, gwell canlyniadau a gwell profiad i gleifion.
Dyddiad dechrau: 1 Ebrill 2024 (£113,299)

Dyfarniad Cyflymydd Personol

Dr Sushmita Mohapatra - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Adsefydlu ar ôl strôc - amser gwarchodedig i gwblhau ceisiadau am gyllid
Dyddiad dechrau: 1 Ebrill 2024 (£21,123)

Dr Nicola Savory - Prifysgol Caerdydd
Bydwreigiaeth - amser gwarchodedig i gwblhau ceisiadau am gyllid
Dyddiad dechrau: 1 Ebrill 2024 (£8,501)