Shelly Higgins

Shelly Higgins

Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Gwobr: Cynllun Ymchwilydd sy'n Dod i'r Amlwg (2024 - 2026)

Diddordebau Ymchwil: Gofal dan arweiniad bydwragedd, man geni, trosglwyddiadau cyn ac ar adeg yr enedigaeth, gofal yn ystod genedigaeth y tu allan i ganllawiau wedi’u hargymell, cefnogi bydwragedd a’u parhad mewn meysydd gofal y tu allan i’r uned obstetreg gan gynnwys addysg a hyfforddiant.


Bywgraffiad

Mae Shelly Higgins yn fydwraig ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys a Rhwydwaith Mamolaeth a Newyddenedigol Cymru gyfan. Mae hi wedi gweithio fel bydwraig ers 16 mlynedd gydag arbenigedd mewn lleoliadau unedau bydwreigiaeth gymunedol ac annibynnol.
 
Mae diddordebau Shelly yn cynnwys gofal yn y cartref neu mewn unedau bydwreigiaeth, trosglwyddiadau yn y cyfnod esgor rhwng lleoliadau a gofal y tu allan i'r canllawiau a argymhellir. Yn ddiweddar mae Shelly wedi cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu dull Cymru gyfan o ran trosglwyddiadau yn y cyfnod esgor neu'r cyfnod ôl-enedigol cynnar o unedau cymunedol neu fydwreigiaeth ac mae hyn wedi arwain at ei maes o ddiddordeb ymchwil.
 
Bydd ei Dyfarniad Ymchwilydd sy'n Dod i'r Amlwg yn galluogi gwaith cyn-Ddoethurol i ddatblygu ei chwestiwn ymchwil ymhellach, cynnal adolygiad o lenyddiaeth, ymgysylltu â chyfranogiad cleifion a'r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol, ymgymryd â rhywfaint o hyfforddiant ymchwil, datblygu a sefydlu rhwydweithiau ac archwilio data sydd ar gael mewn cysylltiad â throsglwyddiadau.


Darllen mwy am Shelly a’u gwaith:

 

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi’r rownd ddiweddaraf o ddyfarniadau personol

 

Sefydliad

Consultant midwife at Powys Teaching Health Board

Cyswllt Shelly

Tel: 07855 377948

E-bost

Twitter

LinkedIn