Cynllun Ymchwilydd sy'n Dod i'r Amlwg
Diben
Mae’r cynllun hwn wedi’i gynllunio i gefnogi unigolion sydd eisiau cymryd eu camau cyntaf mewn ymchwil ac i hwyluso cyfleoedd eraill ar gyfer datblygu gyrfa ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
Ar gyfer pwy
Mae’r Cynllun Ymchwilydd sy’n Dod i’r Amlwg yn agored i unigolion cyfnod cynnar a gyflogir naill ai gan y GIG neu sefydliadau Gofal Cymdeithasol sy’n dymuno ystyried datblygu gyrfa ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
Cyllid ar gael
Costau cyflog am hyd at 0.4 diwrnod Cyfwerth ag Amser Cyflawn (WTE) yr wythnos am ddwy flynedd ynghyd â nwyddau traul ymchwil rhesymol (uchafswm o £5,000)
Pryd
Mae hwn yn gynllun blynyddol gyda galwadau'n agor ym mis Ionawr bob blwyddyn. Mae'r alwad nesaf wedi'i threfnu ar gyfer mis Ionawr 2025.
Mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, o 17 Hydref 2024, yn trosglwyddo i ddefnyddio System Rheoli Dyfarniadau newydd a'r ymgeiswyr ar gyfer y Cymrodoriaethau Uwch a Doethurol nesaf fydd y grŵp cyntaf i ddefnyddio'r system newydd hon.
O fis Hydref 2024 ymlaen, bydd y Gyfadran yn gweinyddu'r holl alwadau newydd gan ddefnyddio'r System Rheoli Dyfarniadau a bydd yn dechrau symud rheolaeth holl ddyfarniadau personol presennol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i'r system hon o fis Ionawr 2025.
Rydym yn rhagweld y bydd y System Rheoli Dyfarniadau newydd yn hwyluso prosesau mwy effeithlon ar gyfer y Gyfadran a fydd o fudd i'n hymgeiswyr a'n haelodau ac yn ein helpu i wella'r gefnogaeth i ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y system newydd, cysylltwch â thîm y Gyfadran a fydd yn hapus iawn i helpu.